Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gwledda a chwerthin dros yr ŵyl

Paratowch at yr ŵyl gyda thamaid o gerddoriaeth, drag a chomedi Cymraeg gwych. Mae gennyn ni dair sioe ddisglair i chi eu mwynhau dros yr wythnosau nesaf.

50 SHÊD O SANTA CLÔS

5 Rhagfyr

Mwynhewch noson o ganeuon Nadoligaidd clasurol Cymraeg, wedi’u perfformio mewn arddull tra gwahanol, gan fand naw-rhan dan arweiniad Rhys Taylor.

Gyda seiniau ffync, pop, roc, lladin, jazz a gospel, mae 50 Shêd o Santa Clôs yn noson Nadoligaidd i’w chofio.

Anghofiwch am brysurdeb yr ŵyl, mae eich hoff seren Drag ddwyieithog, Connie Orff, yma i’ch diddanu gyda gwledd o chwerthin a dwli.

Dewch i gyd-ganu, cyd-chwerthin a mwynhau yng nghwmni'r bugeiliaid budur, Y Divas a'r Diceds, Herod ei hun - Hywel Pitts a’r nefolaidd Sorela.

Mae tocynnau bellach wedi gwerthu allan.

Beth am wneud y mwyaf o’r profiad, ac archebu bwyd a diod i gyd-fynd â’r sioe? Bwydlen a mwy.

A thra eich bod chi’n meddwl am y Nadolig, cymerwch gipolwg ar ein canllaw i brynu anrhegion gwych y Nadolig yma.