Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Lightbulb against a black background with idea clouds drawn in chalk next to it

Gwybodaeth am gyfleoedd Dysgu Gweithredol

Rydyn ni'n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'n set dysgu gweithredol ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol ac artistiaid hunan-gynhyrchu, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd grŵp o ymgeiswyr mor eang â phosib.

Os nad ydych chi'n siŵr os yw'r cyfle yma'n addas i chi, rydyn ni wedi llunio cwestiynau ac atebion gyda'n hwylusydd Laura Drane, a fydd yn egluro ychydig mwy amdano.

Beth yw set dysgu gweithredol? 

Dysgu gweithredol yw pan fydd grŵp o unigolion yn dod at ei gilydd mewn modd strwythuredig a myfyriol (dan arweiniad hwylusydd) er mwyn archwilio eu hatebion eu hunain i'w syniadau, cwestiynau neu broblemau.

Mae'n debyg i hyfforddiant, ond mewn grŵp neu set, a chaiff ei alw'n ddysgu gweithredol gan fod gan gyfranogwyr bob amser gamau gweithredu i'w cyflawni neu i roi cynnig arnynt ar ôl cwrdd.

Mae dysgu gweithredol yn rhoi cyfle i bobl gymryd cam oddi wrth bwysau eu rôl broffesiynol, ac i edrych ar bethau o safbwynt gwahanol. Gan weithio gyda grŵp bach o bobl eraill, byddwch yn cael cyfle i godi, trafod a dysgu am unrhyw fater sydd o bwys i chi.

Drwy wrando (gwrando go iawn), cwestiynu a rhannu adborth, bydd y grŵp yn herio, yn cefnogi ac yn cynorthwyo'r unigolyn i ganfod eu hatebion eu hunain i fynd â nhw o'r sesiwn ac i roi cynnig arnyn nhw.

Er mwyn helpu i alluogi hyn, caiff y grŵp ei arwain gan hwylusydd medrus sydd wedi'u hyfforddi yn y broses dysgu gweithredol.

Felly os oes gennych syniadau, problemau neu ddiddordeb mewn dysgu a myfyrio, ond eich bod heb amser i'w blaenoriaethu, yna gallai dysgu gweithredol fod yn addas ar eich cyfer chi.

Mae setiau dysgu gweithredol wedi cael eu disgrifio fel "melinau trafod dan arweiniad y defnyddiwr", "gofod i gael cefnogaeth gan gyfoedion a myfyrio'n unigol", a "...rhyw fath o rehab i bobl greadigol".

Os hoffech wybod mwy, mae yna fideo byr yma (a wnaed gan yr Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, felly pan mae'n dweud "busnes" dylech feddwl "bywyd proffesiynol neu lawrydd") ac mae mwy o wybodaeth am ddysgu gweithredol yma.

Ar gyfer pwy mae'r cyfle yma?

Bydd y grŵp yn cael ei ddewis ar ôl proses ymgeisio galwad agored. Rydyn ni'n chwilio am ystod eang o bobl, a byddai'n well ganddon ni gynhyrchwyr ac artistiaid hunan-gynhyrchu.

Waeth pa lefel ydych chi – os ydych chi'n artist sy'n dechrau arni, yn dechrau dod i'r amlwg neu'n fwy sefydledig – byddem yn awyddus i glywed gennych chi. Rydyn ni'n awyddus iawn i gael y gymysgedd gywir o bobl yn y set, sydd fel arfer rhwng 6 a 9 o bobl.

Pryd fydd hyn yn digwydd, a ble?

Cynhelir y sesiwn gyntaf ar amser/dyddiad i'w gytuno yn ystod yr wythnos yn dechrau 30 Mawrth. Mae'r sesiynau'n para tua tair awr, a byddan nhw'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd y set yma'n ymrwymiad cychwynnol o chwe sesiwn, gydag un sesiwn bob mis, ac ar ôl hynny gall y grŵp benderfynu dod i ben neu barhau.

Bydd chwe chyfarfod yn 2020 – tri gyda hwylusydd, ac ar ôl hynny disgwylir y bydd y grŵp yn deall yr egwyddorion yn ddigon da i allu hunan-hwyluso, gan barhau y tu hwnt i'r chwe sesiwn pe bai'r grŵp yn dewis gwneud hynny.

Beth yw cost ymuno, a beth sy'n ddisgwyliedig gen i?

Mae cymryd rhan am ddim. Canolfan Mileniwm Cymru fydd yn ei gynnal, gan ddarparu hwylusydd, te/coffi a gofod. Disgwylir i aelodau'r set fynychu pob cyfarfod ac ymrwymo i ymddiriedaeth, cyfranogiad a chyfrinachedd.

Er mwyn adeiladu ar ddysg a rennir a chynnal ymddiriedaeth, dylai pob aelod fod yn bresennol ar gyfer pob cyfarfod Dysgu Gweithredol.

Mae presenoldeb gwael yn effeithio ar egni'r set, gan na fyddai aelodau'n cymryd rhan yng nghyflwyniadau ei gilydd ac na fyddan nhw yna i gynnig adborth ar weithredoedd.

Gall fod yn anodd glynu at ddyddiadau penodedig yn y dyddiadur wrth i derfynau amser agosáu, yn enwedig wrth i brosiect gyrraedd ei ddiwedd. Fodd bynnag, mae'r wobr am gymryd amser i oedi, ystyried a chynllunio gyda'ch set yn sicr yn werth y gwaith.

Rhagor o wybodaeth

Anfonwch e-bost at Glesni Price-Jones – Cydymaith Datblygu Artistiaid glesni.price-jones@yganolfan.org.uk gydag unrhyw gwestiynau, neu er mwyn trefnu sgwrs.

Gwnewch eich cais yma

Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais a danfonwch nhw yn ôl i ni ar e-bost.

Amserlen

  • Dyddiad cau wedi'i ymestyn tan 11 Mawrth, ganol dydd
  • Rhoddir gwybod i'r sawl a ddewiswyd am y penderfyniad yr wythnos yn dechrau 16 Mawrth
  • Cyfarfod cyntaf – wythnos yn dechrau 30 Mawrth
  • Cynhelir y pum sesiwn ddilynol yn fisol yn ystod 2020.