Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gŵyl Undod Hijinx 2022

Mentyll lampau ar y Glanfa, perfformiadau stryd am ddim yn y cyntedd, cerddoriaeth fyw, clwb ar ôl y sioe a digwyddiadau theatr a dawns trwy docyn yn y Stiwdio Weston... Mae Gŵyl Undod Hijinx yn ôl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Disgwyliwch yr annisgwyl!

I ddathlu ei 10fed ŵyl, mae Gŵyl Undod wedi llunio rhaglen lawn i’r ymylon ryngwladol o ddigwyddiadau a fydd, nid yn unig yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ond hefyd ar draws Caerdydd yn Porters, Chapter, yr Aes a hefyd ym Mangor a Llanelli.

Fel un o wyliau celfyddydau cynhwysol ac anabledd fwyaf Ewrop a'r unig un o'r fath yng Nghymru, bydd yr ŵyl unwaith eto yn dod â’r celfyddydau a theatr cynhwysol ac anabledd gorau o bedwar ban byd. Hefyd, eleni, gallwch ymuno ar-lein trwy ein llwyfan ddigidol newydd, a fydd yn cynnal rhaglen gan Undod Hijinx a’r ŵyl sy’n bartner i ni Escena Mobile, Sbaen.

Byddwch yn barod am lwyth o theatr, dawns, comedi, ffilm, theatr stryd a chynhyrchiad theatr digidol hybrid newydd. Chwiliwch am wybodaeth am y digwyddiadau am ddim a’r rhaglen gyda thocynnau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 22 – 25 Mehefin isod neu edrychwch ar raglen lawn yr ŵyl ar wefan Gŵyl Undod.

Dydd Mercher 22 Mehefin

Ymunwch â ni yn y Glanfa o 6pm ar gyfer digwyddiadau am ddim cyn berfformiadau cyntaf yr ŵyl â thocyn yn y Stiwdio Weston.

Am 8pm, bydd Gŵyl Undod Hijinx a tanzbar_bremen yn cyflwyno sioe ddawns awr o hyd o’r enw touch me. Mewn perfformiad a argymhellir i'r rheiny 12 a hŷn, bydd triawd o ddau ddawnsiwr gwrywaidd ac un fenywaidd yn ymchwilio i’r hyn y mae cyffyrddiad ac agosatrwydd yn ei danio ynom i gyd.

Perfformiwyd y ddawns hon am y tro cyntaf yn 2017 ac yn awr, ar ôl dwy flynedd o’r pandemig, mae iddi ystyr newydd. Ar ôl profi cadw pellter cymdeithasol, bydd yn dweud rhagor wrthym am rym cyffyrddiad.

Dydd Iau 23 Mehefin

Ymunwch â ni eto o 6.30pm am fwy o berfformiadau pop-yp am ddim yn y cyntedd cyn sioeau â thocyn gyda'r nos.

Yn y Stiwdio Weston am 8pm, bydd Danza Mobile, un o gwmnïau dawns cynhwysol mwyaf llwyddiannus Ewrop, yn gwneud eu chweched ymweliad i'r Ŵyl Undod. Mae eu perfformiadau wastad wedi cael derbyniad gwych gan ein cynulleidfaoedd ac rydym yn sicr y bydd El Festin de los Cuerpos yn union yr un fath!

Wedi ei ysbrydoli gan Plato a’i syniadau am fodau dynol a’n tueddiadau naturiol, mae dawns Danza Mobile yn olwg chwareus o’r hyn sy’n ein gwneud ni yn ni. Awgrymwyd ar gyfer oedrannau 14+ (yn cynnwys noethni rhannol a themâu aeddfed).

Dydd Gwener 24 Mehefin

Bydd rhagor o ddigwyddiadau cyn sioeau (a phartïon ar ôl sioeau efallai) yn y Glanfa ddydd Gwener a dydd Sadwrn cyn ac ar ôl ein sioeau yn y Stiwdio Weston am 8pm. Cadwch olwg ar wefan yr Ŵyl Undod am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn dros yr wythnosau nesaf.

Gan y cwmni amlwg a gyflwynodd Meet Fred a Metamorphosis, dyma wawr profiad theatr hybrid newydd, a lansiad cwmni technoleg dychmygol newydd y cewch chi ei brofi nos Wener.

Mae Hijinx wedi creu sioe newydd sbon, the_crash.test, chwedl Frankenstein ar gyfer ein cyfnod ni. Awgrymwyd ar gyfer cynulledifa 14+, dyma olwg dywyll o chwareus ar ein perthynas â thechnoleg, yn ymgorffori gwaith pyped sy’n casglu symudiadau, taflunio ar raddfa fawr, cyfansoddi gwreiddiol, gyda chast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy ddolen fideo, i gynulleidfaoedd byw yn Stiwdio Weston am 8pm ac ar-lein.

Dydd Sadwrn 25 Mehefin

Bydd Cwmni Dawns Vero Cendoya yn cyflwyno epig dawns-theatr gynhwysol, yn pontio’r cenedlaethau, ddoniol, farddonol, ddifyr wedi ei hysbrydoli gan stori wir am yr adeg pan roddwyd Duw ger bron y llys.

Ysbrydolwyd Bogumer (neu Children of Lunacharsky) gan yr achos llys yn erbyn Duw a ddigwyddodd ym Moscow, 1919. Mae’r ddawns yn archwilio’r ymchwil am eich hunaniaeth eich hun, deinameg grym, a’r modd y mae’r wladwriaeth yn dylanwadu arnom. Trwy ddawns, theatr a hiwmor, rydym yn sôn am rym ac am chwilio am ystyr pan fydd Duw yn farw.

Dydd Sul 26 Mehefin

Digwyddiad olaf Gŵyl Undod 2022 yng Nghaerdydd yn Stiwdio Weston fydd y criw dawns arloesol, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, Drag Syndrome.

Yn cynnwys Breninesau a Brenhinoedd drag gyda syndrom Down, maent yn dangos i’r byd nad dim ond annwyl a del yw pobl â syndrom Down. Maent yn artistiaid proffesiynol angerddol, hyblyg, sy’n gweithio’n galed ac yn gwybod sut i gyflwyno sioe ryfeddol ac maent wedi ymrwymo i fireinio eu crefft.

Ar hyn o bryd mae Drag Syndrome yn cynnwys Horrora Shebang, Justin Bond, Lady Francesca, Nikita Gold, lady mercury, a Davina Starr.

Disgwyliwch am ragor o fanylion dros yr wythnosau nesaf. Cadwch olwg ar y dudalen hon am fwy o ddiweddariadau Gŵyl Undod neu dilynwch holl raglen yr ŵyl ar wefan Gŵyl Undod.