Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hafan hynodrwydd

Dyma Luke Hereford, seren ein hantur gerddorol Grandmother’s Closet (and What I Found There…), yn sôn am y lle roedd e'n gallu datgelu ei hunaniaeth go iawn – tŷ ei fam-gu.

Mae cael gofod yn hollbwysig. Gofod i deimlo'n ddiogel, gofod i dyfu fel person, gofod i’w alw'n lle i ni’n hunain. Gofod i ddysgu bod yn pwy ydyn ni go iawn.

Fel person cwiar, mae'r cysyniad o ofodau diogel yn aml yn teimlo fel rhywbeth sy’n bodoli mewn bywyd nos yn unig, neu pan fyddwn ni wedi’n hamgylchynu gan bobl cwiar eraill.

Pan ddechreuais i ysgrifennu Grandmother’s Closet (and What I Found There…), roedd y byd mewn cyfnod clo a doedd gan bobl cwiar ddim mynediad bellach i'r gofodau yna sydd wedi dod yn rhan mor bwysig o'n bywydau bob dydd ni. Felly, roedd rhaid i ni geisio gwneud ein cartrefi ein hunain yn ofodau cwiar.

Wrth i bobl cwiar ledled y byd ddechrau ailddyfeisio’r cysyniad o ofod diogel, fe sylweddolais i’n gyflym fod hyn i gyd yn gyfarwydd i fi; fel ‘cwiar ifanc’, y tro cyntaf i fi ddod ar draws y cysyniad o ofod diogel cwiar oedd rhwng muriau artecs cysegredig tŷ fy mam-gu: Waun Fawr.

Drama am ddihangfa a pha mor allweddol yw dihangfa i bobl cwiar yw Grandmother’s Closet (and What I Found There…), felly mae’n naturiol ei bod yn bodoli’n bennaf yn y gofod lle sylweddolais i pa mor bwerus mae dihangfa’n gallu bod.

Ac fel cymaint o ofodau diogel cwiar, mae hefyd yn lle sy'n llawn atgofion personol.

Nid aroglau alcopops a lloriau stecs, ond aroglau peli camffor yng nghorneli dyfnaf cwpwrdd dillad Nan. Nid atgofion meddw o ddawnsio’n wyllt i Madonna yn y clwb nos, ond atgof o ail-greu fideo Material Girl yn ystafell fyw Nan.

Waun Fawr hefyd yw lle byddwn i’n gweld Nan ar ei gorau. Ym mhentref Rhufeinig bychan Caer-went, mae’n deg dweud ei bod hi’n wraig hynod, a dweud y lleiaf.

Fe fuodd hi’n rhedeg busnes golchi dillad llewyrchus am dros bedwar degawd o ystafell gefn yng nghrombil y tŷ.

Roedd hi’n mynnu galw ystafell gyfan yn “ystafell wnïo” ar gyfer ei hoff hobi o wneud dillad a gwisgoedd ar gyfer ei hannwyl ŵyr oedd wrth ei fodd yn gwisgo lan, ac fe fyddai’n mynnu llenwi pob cwpwrdd dillad ym mhob ystafell yn y tŷ gyda’i dillad ei hunan – er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n rhannu’r tŷ gyda'i gŵr, a thri o blant am flynyddoedd lawer.

Roedd hi wir yn byw bywyd yn ôl ei rheolau hi ei hunan, a hi oedd y cipolwg cyntaf ges i ar rywun oedd yn gallu gwneud hynny heb ymddiheuro dim wrth neb.

Mae diwylliant gwrywaidd i’w deimlo’n drwm yn fy nhref enedigol i, ond fe dorrodd hi ei chŵys ei hunan fel menyw oedd wir yn ben ar bawb. Iawn, roedd Dad yn rhedeg ei fusnes o’r dreif blaen, ac fe fuodd Tad-cu yn byw yna fel ei gŵr cariadus tan ei farwolaeth yn 2007, ond tŷ Nan oedd Waun Fawr.

Hi oedd yn cael y gair olaf ar ba garped blodeuog fyddai'n cael ei osod ym mhob ystafell. Hi fynnodd fod yr artecs yn y gegin yn cael ei baentio yn y melyn llachar mwyaf annisgwyl. A hi ddyluniodd y bar mahogani ofnadwy yn yr ystafell fyw i’w eithafion mawreddog coegwych.

Fe wnaeth hi'r tŷ yn hafan ar gyfer hynodrwydd, a phryd bynnag y byddwn i ei angen, roedd e yno â breichiau cariadus i fy nghroesawu i le lle gallwn i fod yn pwy bynnag o’n i eisiau bod, ymddwyn sut bynnag o’n i eisiau ymddwyn, a gwisgo beth bynnag o’n i eisiau ei wisgo.

Mae’r cocŵn o gysur roedd Nan a’i thŷ yn ei ddarparu yn rhywbeth dw i wedi’i gario gyda fi drwy’r holl waith o ysgrifennu’r ddrama yma, ac mae wedi treiddio drwy ein proses greadigol gyfan.

Mae’r tîm wedi bod yn treulio diwrnodau ailddrafftio a sesiynau cynllunio gwaith dylunio yn Waun Fawr, gan fwynhau awyrgylch cartref sydd wedi mynnu aros yn y saithdegau, ac mae hyn wir wedi ein helpu ni i sylweddoli bod y tŷ’n un o brif gymeriadau’r ddrama.

Er y bydden ni’n hoffi gallu gwahodd pob aelod o'r gynulleidfa i’r tŷ hefyd, gobeithio ein bod ni’n llwyddo i fynd â’n cynulleidfaoedd i'w gofodau diogel personol eu hunain, ble bynnag mae hynny, a pha bynnag mor rhwysgfawr ormodol yw’r addurnwaith.

Mae Grandmother's Closet (and What I Found There…) yn rhedeg o 20 – 23 Ebrill 2022.

Archebwch docynnau