Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Colourful mural depicting Black History Month 2020

Hanes Pobl Dduon 365

Tra bo'n hadeilad ar gau rydym yn ceisio ein gorau glas ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill sy’n greadigol a diogel. Mae ein ffenestri enfawr yn cynnig gofod perffaith ar gyfer arddangos gwaith celf cymunedol anhygoel.

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn arddangos gwaith celf o Arddangosfa Mycelium. Rhannwyd hanes yr arddangosfa yn ein blog mis Awst.

Bellach mae ein ffocws wedi symud ac rydyn yn ystyried sut y gallwn ddathlu hanes a diwylliant Du y mis yma a thu hwnt.

Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi bod yn datblygu eu hymateb i #BlackLivesMatter ac rydyn ni wrth ein boddau yn eu helpu nhw i ddatblygu ac arddangos eu gwaith.

Local Welsh singer, Dame Shirley Bassey is just one of the iconic Black heroes you can see in the exhibition.
Y Fonesig Shirley Bassey, cantores leol enwog, ac un o nifer o’r arwyr eiconig Du sydd i’w gweld yn yr arddangosfa.

Mae eu gwaith celf trawiadol ‘Welcome To Tiger Bay', a grëwyd ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon i’w weld ar flaen ein hadeilad. Maent hefyd wedi casglu storïau amrywiol sy’n dathlu arwyr Duon. Cymerwch olwg os fyddwch yn pasio’r adeilad.

"Rydyn ni’n teimlo bod datblygiad Bae Caerdydd wedi gwanhau'r ymdeimlad o gefndir amlddiwylliannol yr ardal a alwyd gynt yn Tiger Bay. Rydyn ni’n awyddus i ddathlu y dreftadaeth hon."

Cyngor Ieuenctid Caerdydd
Gwaith celf Cyngor Ieuenctid Caerdydd - Welcome to Tiger Bay - ar flaen ein hadeilad
Gwaith celf Cyngor Ieuenctid Caerdydd - Welcome to Tiger Bay - ar flaen ein hadeilad

Er mwyn cefnogi Black Lives Matter mae’r Cyngor Ieuenctid wedi creu tri addewid sy’n cyd-fynd yn agos â’r hyn rydyn ni’n ei gynllunio yn ein Cynllun Gweithredu Amrywiaeth.

Gwaith celf ar y gweill...

Mae digonedd o arddangosfeydd celf cyffrous ar y gweill gennym, gan gynnwys gwaith yr artist o Drebiwt a’r ffotograffydd Zaid Djerdi a ymgeisiodd drwy ein galwad am Gelf Cyllidebu Cyfranogol.

Bydd delweddau prydferth a thrawiadol Zaid i’w gweld yn ein ffenestri blaen a hefyd yn ymddangos yn ein harddangosfa Lleisiau dros Newid pan fyddwn yn ailagor.

Mae gwaith Zaid wedi dal sylw’r ffotograffydd byd-enwog, Rankin, ac fe fydd yn ymddangos mewn rhaglen Sky Arts, ochr yn ochr â rhai o luniau mwyaf eiconig 2020. Mae’n fraint i ni gael arddangos ei waith.

A Black man speaking passionately into a microphone at a Black Lives Matter protest event
Protest Black Lives Matter yng Nghaerdydd. Delwedd gan Zaid Djerdi

"Rwy’n byw yn Nhrebiwt ac yn caru creu celf ar sawl ffurf. Tynnais y lluniau yma oherwydd mae’r bobl ddewr yma’n rhoi llais i’m meddyliau a nheimladau. Tynnu lluniau yw’r unig ffordd i mi rannu'r hyn sydd ar fy meddwl."

Zaid Djerdi
A young black man wearing a mask sits on a police van's bonnet holding up a protest banner
Protestiwr yn dal baner #BLM o flaen fan yr heddlu. Delwedd gan Zaid Djerdi

"Fe wnes i’n siŵr fy mod ar flaen y brotest, yn tynnu lluniau, oherwydd teimlais mai portreadu’r golygfeydd yma yn y ffordd orau bosib oedd fy nyletswydd fel person lleol. Yn y dyfodol hoffwn greu bywoliaeth llawn amser o wneud yr hyn rwy’n ei wneud orau, sef dangos y storïau hynny sy’n cyfoethogi bywydau – fel y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd."

Zaid Djerdi

Yn ystod mis Rhagfyr rydym yn cyflwyno murlun arbennig gan yr artist lleol, Kyle Legall. Wedi’i eni a’i fagu yn Nhrebiwt, mae e bob amser yn falch o ddangos gwreiddiau amlddiwylliannol ei gartref yn Tiger Bay.

We are the World, We are the Children

Mae’r darn hwn yn ddehongliad llawn mynegiant, sy’n dangos y cariad rhwng tad a mab. Mae gwreiddiau’r ddau yn y gymuned yn ymestyn yn ôl i’r holl wledydd a fyddai wedi dod i borthladd Tiger Bay. Gwelwch ragor o waith gan Kyle ar ei dudalen Instagram - @Higher_Graphics.

Dw i’n credu bod angen i ni gyd fod yn falch o’n gwreiddiau a dathlu ein gwahaniaethau.

Kyle Legall

Mae mwy o waith celf ar ddod. Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau’r arddangosfa wrth i chi gerdded heibio.

Byddem wrth ein boddau’n cael eich adborth ac ambell i awgrym ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei ddangos nesaf. Dilynwch ni ar Twitter (@yGanolfan) a rhowch wybod i ni beth yr hoffech chi ei weld.