Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pen-blwydd Hapus i ni'n 15

Mae'n anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i ddrysau'r Ganolfan agor am y tro cyntaf. Mae cynyrchiadau a phobl yn mynd a dod, ond mae'r adeilad eiconig yma o hyd, fel cartref i'r celfyddydau yng Nghymru.

Heddiw, rydyn ni'n dathlu ein pen-blwydd yn 15. Nôl ym mis Tachwedd 2004, cynhaliwyd cystadleuaeth i staff am y cyfle i ddatgloi drysau'r Ganolfan am y tro cyntaf.

Enillodd Janet Thickpenny'r gystadleuaeth, a chafodd yr anrhydedd o droi'r allwedd ar ei phenblwydd yn 40 (cyn yr agoriad swyddogol gan y Frenhines). Mae Janet dal i weithio yma yn y Ganolfan, fel aelod o'r tîm Profiad Cwsmer.

Every time I walk into the auditorium I feel uplifted.

Janet Thickpenny

Mae yna lawer gormod o atgofion anhygoel i allu rhannu bob un mewn un blog, ond dyma ychydig o'r uchafbwyntiau o'n taith ni hyd yn hyn.