Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Diwrnod Dahl Hapus

Geoff Caddick/ PA

Yn gyntaf  - Penblwydd Hapus  Roald Dahl!

Byddai Roald Dahl yn 102 oed petai'n fyw heddiw ond mae ei waddol yn byw drwy ei lyfrau diri, barddoniaeth, dyluniadau, ffilmiau a chymeriadau anhygoel fe greodd yn ystod ei yrfa tri deg mlynedd.

Bob blwyddyn mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod ynghyd i gofio'r dyn rhyfeddol yma drwy gynnal partïon Diwrnod Dahl eu hunain.

Ac os ydych chi'n ffansi gwneud rhywbeth gyda'ch ysgol, teulu neu ffrindiau yna gallwch lawrlwytho rhai syniadau ardderchog a phecynnau parti Dahl yma.

GWYDDOCH CHI

Nid awdur anhygoel yn unig oedd Roald Dahl. Roedd hefyd yn ysbïwr, yn beilot-ymladdwr o fri, hanesydd siocled a dyfeisiwr meddygol ac fe fwynhaodd lwyddiant ar y sgrin fach gyda'i straeon yn rhan o Tales of the Unexpected ac Alfred Hitchcock Presents yn ystod y 1970au a'r 1980au.

Ganwyd yma yng Nghaerdydd, ym mhentref Llandaf, i rieni Norwyeg, Harald Dahl a Sofie Magdalene Hesselberg. Cafodd ei enwi ar ôl yr archwiliwr Norwyeg enwog, Roald Amundsen, y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn y De.

DATHLU DAHL

Yn 2016 daeth Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales at ei gilydd i greu Dinas yr Annisgwyl i ddathlu penblwydd Roald Dahl yn 100 mlwydd oed.

Fe ddathlon ni mewn steil gyda rhaglen hyfryd o berfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau'n llenwi bob cornel o'r ddinas, o gorneli cyfrinachol a chelloedd banciau i erddi cudd a thu hwnt.

Nid bob dydd y gwelwch Eirinen Wlanog Enfawr, teulu direidus o lwynogod a llawer mwy...

Bu Eirinen Wlanog Enfawr, teulu direidus o lwynogod, priodas Miss Ladybird a Mr Fireman a llawer mwy yn rhan o’r dathlu.

Yn y Ganolfan fe gynhaliwyd Byd Wondercrump Roald Dahl; arddangosfa ymarferol oedd yn hawlio nifer o loriau’r adeilad gan ddangos arteffactau o Amgueddfa a Chanolfan Stori Roald Dahl a thywys ymwelwyr ar siwrne hudolus drwy fywyd yr awdur.

DJ Huw Stephens yn ystod darlleniad o lyfr Roald Dahl yng nghornel cudd o Gaerdydd.

Fe wnaethon ni hefyd gyd-gynhyrchu Wonderman gyda'r cwmni theatr dalentog Gagglebabble.

Roedd y ddrama, a chafodd ei haddasu o straeon byr gwreiddiol Roald Dahl i oedolion yn cynnwys byrddau wedi'u goleuo a chanhwyllau, ystafelloedd myglyd, band jazz byw a digon o senarios swrrealaidd i wneud hi'n brofiad theatr hollol ryngweithiol.

DAHL'IWCH ATI BLANTOS

Yn ôl i'r presennol nawr, ac os gamwch drwy ein drysau ni gyda'r plant yr Hydref yma, yna fe welwch chi chwe chymeriad  LEGO Dahl o rhai o'i lyfrau mwyaf poblogaidd.

Ffigyrau o gymeriadau Dahl yn y Ganolfan

Rydyn ni'n aros am un ffigwr arall i gyrraedd ond bydd rhaid i chi aros i weld pwy fydd yn ymddangos... 

A nawr yn 2018 mae'n cariad at bopeth Dahl yn parhau gyda Matilda The Musical gan y Royal Shakespeare Company sydd yma o 4 Rhagfyr - 12 Ionawr.

Matilda The Musical from the Royal Shakespeare Company, inspired by the beloved book by Roald Dahl.

Wedi’i gweld gan fwy na 7 miliwn o bobl ac wedi ennill mwy na 85 o wobrau rhyngwladol, dyma'r anrheg Nadolig perffaith i'r holl deulu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu tocynnau'n brydlon gan ei bod hi'n sioe hynod boblogaidd.