Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Taith Immersive Arcade - sesiynau galw heibio

Rydyn ni wedi ymuno â Digital Catapult fel un o sawl lleoliad yn y DU i gynnal taith Immersive Arcade.

Yr arddangosfa unigryw hon yw'r cyntaf o'i fath, gan ddod â'r enghreifftiau gorau o brofiadau realiti rhithwir (VR) a 360° a grewyd yn y DU dros yr 20 mlynedd ddiwethaf ynghyd.

Wedi'i themâu ar archwilio'r cof dynol, bydd y digwyddiad yn gyfle i ddefnyddwyr archwilio amrywiaeth o brofiadau VR ac yn bwriadu cysylltu â'r rheiny sydd heb brofi cynhyrchiadau trochi o'r blaen.

Ymunwch â ni i roi cynnig ar brofiadau o'r byd profiadau dogfennol ac arddulliau naratif.

Fe fydd yn gyfle hefyd i ddysgu mwy am ein profiad VR ddogfennol newydd, Ripples of Kindness, a grewyd mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri i anrhydeddu bywyd eu brawd, Hussein.

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio am ddim ar 23 Medi yn yr Ystafell Seligman. Cynhelir y rhain rhwng 12pm-2pm4pm-6pm.

Does dim angen archebu ymlaen llaw - galwch heibio!

Os ydych chi rhwng 18 a 25 mlwydd oed, bydd gennych chi'r cyfle hefyd i ymuno â rhaglen mentora trochi - dewch i un o'r sesiynau am fwy o wybodaeth.