Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno Jo Fong

Roedd yn bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol ym mis Mai. Mae'r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ymuno â'n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dod i adnabod y cymdeithion yn well. Yr wythnos hon, dewch i gyfarfod Jo, sy'n cyflwyno ei hun yn ei geiriau ei hunain...

Dw i wedi cyrraedd.

Doedd hi ddim yn daith hawdd, ond beth sy'n hawdd dyddiau 'ma?

Ychydig amdanaf i? Rwy'n mwynhau gweithio a bod gyda phobl. Does dim rhaid i mi ddweud doedd pandemig ddim yn ddefnyddiol.

Rydw i wedi creu rhai sioeau'n ddiweddar, rhai go iawn yn ogystal ag o bellter neu ddigidol. Mae fy niddordebau'n glir wrth weld y teitlau: Ways of Being Together, What Will People Need?, The Rest of Our Lives, An Invitation…, Our Land, Neither Here Nor There. Yn y bôn 'perthyn' yw'r brif thema erioed, hyd yn oed blynyddoedd yn ôl pan nad oeddwn i'n ymwybodol o hynny.

Os oes 'na rywbeth newydd yn digwydd, mae'n edrych at y dyfodol a sut bydd pethau o hyn ymlaen? Dydw i erioed wedi meddwl yn hawdd am y dyfodol, gan fod gwell gen i fod yn y foment - neu o leia'n trïo fy ngorau i angori a gwneud rhywbeth yn dda.

Rydw i wedi bod yma ers sbel. Graddiais yn 1989 yn Ysgol Ddawns Rambert, ac rydw i wedi dawnsio ar lwyfannau ar draws y byd: Opera Paris, Coliseum Llundain, La Monnaie, a Chanolfan Mileniwm Cymru. Dydw i ddim yn sôn am hyn yn aml ond yn y bôn fe achubodd dawns fy mywyd, gan roi lle i mi fynegi fy hunan yn llawn.

Rwy'n 50 mlwydd oed nawr ac yn dal bwriadu dawnsio ar lwyfannau dros yr haf ac yn yr hydref. Roedd hi'n frawychus o'r blaen, ond nawr mae gwneud unrhywbeth neu ailgydio â rhywbeth yn llwyddiant mewn unrhyw yrfa.

Rwy'n gyffrous. Rwy'n teimlo bod pobl yn ysu bwcio digwyddiadau byw a bod mewn ystafelloedd, dawnsio ynghŷd a chael trafodaethau. Mae'r gair diwylliant yn dod i'r meddwl: y rhannau ar y llwyfan, y pethau dyw pobl ddim yn gweld, y ffyrdd rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd.

Pam ydw i yma?

Rwy'n credu fy mod i'n ddelfrydwraig a gan wybod bod cymaint i'w newid, mae bod yn rhan o'r trafodaethau yma'n teimlo'n bwysig. Rwy'n caru'r syniad o sawl llais, sawl syniad o lwyddiant yn mynnu lle ar yr adeg hon.

Pan symudais i Gaerdydd roeddwn i'n ymwybodol o'r angen i bob dim weithio - ein canolfannau celfyddydol, gofodau cymunedol, cynghorau celfyddydol, arweinwyr gwahanol, athrawon, prosesau gwahanol, blaenoriaethau a gofodau - er mwyn i mi ffynnu fel artist, ac mae'n rhaid gofyn llawer o gwestiynau. Mae gen i ddigonedd o gwestiynau.

Rwy'n gweithio'n araf, gall fy mhrosiectau gymryd blwyddyn i'w cynllunio a chreu... Yn aml adeiladu perthnasau sy'n bwysig. Pethau sydd ond yn bodoli rhwng pobl.

Mae fy ngwaith wedi'i ddisgrifio'n chwareus, anrhagweladwy, llawen, wedi'i deimlo, empathig, gwrthryfelgar, amrwd, digymell a byw. Fy ffefryn i yw "gwrthwyneb ffasgiaeth."

Yn aml ceir llawer o wrando neu ymarfer ein hunain, ein cyrff a'n lleisiau, ac ystyr o ddod ynghŷd. Mae hi fel parti da lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus yn hytrach na lletchwith, ond dydw i ddim yn ofni ychydig o drin a thrafod yr hyn sy'n anghyfforddus neu'n annirnadwy.

Mae fy ngwaith yn ceisio dangos y bobl, gweld pobl a gadael i bobl cael eu gweld, ac ers 2016 mae hi'n parhau i ddatblygu o gwmpas un cwestiwn: beth yw cymuned? Mae'n gofyn i bobl a chynulleidfaoedd i ddod â nhw eu hunain - nid actorion ydyn ni. Er efallai bod sgôr neu frasamcan o sgript, mae'r digwyddiad yn aml am yr hyn mae pobl yn cario gyda nhw, gan ofyn am lefel o ffydd a gonestrwydd sy'n gallu bod yn brin mewn perfformiadau a'r byd "go iawn." Mae holl beth yn cwmpasu'r syniad bod angen pobl ar bob un ohonom. 

Rwy'n ceisio ffeindio rheswm da i ddarn o waith ddigwydd. Ers cychwyn y cyfnod clo, y cwestiwn rwy'n cario yw: beth sydd ei angen ar bobl? Mae'r argyfyngau amrywiol wedi agor popeth yn nhermau gweld popeth yn wahanol; sut gallwn ni weithio gyda'n gilydd, rhoi gofod, ysbrydoli, creu trafodaeth groesawgar a dilys. Dyma ran weithgar y gwaith i mi. Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd bodd cynrychiolaeth a chyfiawnder hiliol yn dod yn rhan o'r cyfan, a sut gall rôl y celfyddydau symud ac ysgogi trafodaethau a chysylltiadau heb eu perfformio.

Rydw i wedi bod yn ymchwilio i sut gall prosesau gwneud rhan o waith hanfodol yr amser hwn, ac yn meddwl am y gair cynulleidfa a sut mae'n teimlo'n hen nawr. Mae gen i ddiddordeb mewn gwaith sy'n datgelu'r artist neu ddawnsiwr neu feddyliwr neu ysgrifennwr neu ganwr sydd tu fewn i bawb; y rhan sy'n rhyddhau pob un ohonom, nid mewn ffordd fursennaidd ond mewn ffordd diymatal.

Mae'n rhaid i mi ddweud dydw i ddim yn llwyddo gwneud pob dim ar ben fy hun. Mae 'na restr hir o gydweithwyr ac yn ein gwaith ni mae pawb yn arbenigwr. 

Rwy'n sylweddoli fy mod yn defnyddio'r gair "gwaith" llawer, rwy'n credu er mwyn iddo deimlo fel bod ganddi bwrpas mewn byd sy'n mesur pethau mewn ffyrdd nad ydw i'n cytuno â nhw. Rwy'n gwneud fy "ngwaith" orau pan nad ydyw'n teimlo fel gwaith, pan ceir egni, llif, risg, ysgafnder, bywyd... synnwyr o gyfanrwydd. Os oes rhaid gwneud gwaith efallai'r paratoi yw hi, ond wedyn mae'n rhaid iddi fynd ar ei ffordd er mwyn iddi ddigwydd mewn ffordd lawn.

Rydw i wedi penderfynnu byddaf yn "ymgartrefu" fy hun yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Os gallaf i lwyddo i wneud hynny, efallai pan rwyf yn creu gofod i rywbeth ddigwydd rhwng pobl, efallai byddant yn ffeindio eu bod nhw'n gallu ac yn eisiau "ymgartrefu" yma hefyd.

Yn ystod y cyfnod clo rydw i wedi llwyddo cadw 'fynd, aros yn chwilfrydig, ac adennill fy iechyd. Mae gwireddu perfformiadau unwaith eto mewn ffyrdd sy'n gallu cyrraedd pobl yn teimlo fel naid enfawr, ond eto rydw i dal yn llawn dychymyg ac yn parhau i fod yn rhan o'r foment hon drwy ymarfer dweud y gwir, aildylunio, ailfeddwl y ffordd rydym yn meddwl, cefnogi, protestio ac adfer.

I weld ychydig o'm gwaith eleni, gwelwch y dolenni isod:

Rise 2021 Festival of Contemporary Dance and Performance

The Rural Touring Dance Initiative's Fifth Dance Performance Menu

www.jofong.com