Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dysgu drwy brofiadau: Hyfforddiant Radio Platfform

Fel y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol, ers cau Canolfan Mileniwm Cymru a chychwyn y cyfnod clo, mae teulu Radio Platfform wedi bod yn brysur yn cadw fflam yr orsaf ynghyn.

Er bod staff a chyflwynwyr ifanc anhygoel yr orsaf radio methu dod i mewn i’r adeilad, maent wedi addasu yn ystod y cyfnod heriol ac wedi bod yn creu a darlledu sioeau o’u cartrefu. Crëwyd dros 200 o sioeau newydd yn ystod 2020!

Ochr yn ochr â'n gwaith darlledu rydyn ni wedi bod yn cynnal ein gwaith hyfforddi ar-lein. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â grwpiau ac yn cynnal gweithdai ar-lein sy'n cyrraedd pob rhan o'r wlad.

Yn dilyn llwyddiant ein cyrsiau achrededig cyntaf ar-lein, rydyn ni'n lansio'n cwrs ar-lein nesaf ar gyfer 2021.

Ar y cyd â ProMo Cymru (sydd hefyd yn achredu'r cwrs yn llawn), bydd ein cwrs pum-wythnos yn cychwyn ar-lein ddydd Llun 1 Chwefror.

Cynhelir y cwrs drwy alwadau wythnosol drwy Zoom, 4.30 - 6.30pm bob dydd Llun o 1 Chwefror tan 1 Mawrth.

Mae’r cwrs am ddim i bawb sy'n cymryd rhan. Y cyfan fydd ei angen arnoch yw cysylltiad i'r we a dyfais y gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â Zoom. Ar gyfer y cwrs cyfredol yma rydyn ni'n cydweithio ag Yn Gryfach Ynghyd, sef y bartneriaeth rhyngom ni a Phlant y Cymoedd.

young man in a white shirt sat next to a microphone
Edward Lee

Tra bo’n cwrs sy’n cychwyn 1 Chwefror yn prysur lenwi, rydyn ni’n bwriadu cynnal cyrsiau hyfforddi eraill drwy gydol y flwyddyn, rhai gyda ffocws ar y cymoedd ac eraill yn agored i bawb.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – Twitter,  Facebook ac Instagram am gyhoeddiadau pellach drwy gydol y flwyddyn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu drwy'r hyfforddiant?

Byddwn yn trafod llawer o bynciau - o gynllunio, recordio a golygu sioeau radio a phodlediadau yn eich cartref i ddysgu sut i gynnal cyfweliad gwych a chreu cynnwys newyddiadurol o’r safon flaenaf.

Erbyn diwedd eich hyfforddiant, byddwn wedi darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sydd angen arnoch i gychwyn creu cynnwys radio o’ch cartrefi. Byddwn yn parhau i’ch cefnogi bydd croeso i chi ymuno â theulu Radio Platfform.

Felly p’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu’n chwilfrydig ac am ddysgu sgiliau newydd, mae’r cwrs yma’n gynhwysfawr iawn.

Ar ôl pob sesiwn nos Fawrth byddwn yn cynnal sesiynau ‘galw mewn’ drwy Zoom gydag aelodau, er mwyn cynnig cymorth a chyngor ar hyd y ffordd.

Bydd y sesiynau yma ynghyd â’r sgyrsiau gan gyflwynwyr ac aelodau staff Radio Platfform yn rhoi’r cyfle i ni ddod i nabod ein gilydd yn well. Fe fydd hefyd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am gynnwys ac ystod eang o gyfleoedd sydd i’w cael yn yr orsaf.

Rydyn ni am wybod mwy am eich diddordebau, am wrando ar yr hyn hoffech ei gael o’r cwrs a theilwra’r hyn a wnawn i’ch helpu chi ar eich taith. Yn syml, rydyn ni yma i’ch helpu.

Rydyn ni wedi darlledu llwyth o gynnwys hyd yn hyn - o sioeau cerddoriaeth i gyfweliadau, sioeau Cymraeg, dramâu, sioeau byr a phodlediadau i wleidyddiaeth a Chwarae rôl Dungeons & Dragons a llawer mwy.

Os hoffech chi ddatblygu’r sgiliau i ymuno â ni, os hoffech chi gynhyrchu neu gyflwyno cynnwys sain, ac os hoffech chi gael cefnogaeth gan grŵp o bobl ifanc gwych, yna ewch amdani - rydyn ni’n barod i’ch helpu!

Er mwyn cofrestru ar gyfer ein cyrsiau hyfforddi, neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio radioplatfform@wmc.org.uk

Cymerwch gipolwg ar ein tudalen Mixcloud i weld y math o bethau mae ein cyflwynwyr yn eu creu.

Edward Lee

Swyddog Maes a Hyfforddiant Radio Platfform 

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruMoondance Foundation a Garfield Weston, Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.