Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
James a'r Eirinen Wlanog Enfawr

Dahl LEGO yn cyrraedd

‘Dahliwch’ ati gyda’r rhai bach i ddod o hyd i’r gosodiadau LEGO® ledled y Ganolfan sydd wedi’u hysbrydoli gan gymeriadau arbennig Roald Dahl.

Ac wrth iddyn nhw redeg o amgylch yn dod o hyd i’r gweddill, gallwch chi sleifio i ffwrdd ac ymlacio yn y Caffi gyda Cappucino bach a sleisen o gacen.

Yn wreiddiol trawsnewidiwyd y chwe arwr mewn i gerfluniau LEGO anhygoel gan y Roald Dahl Story Company a LEGO er mwyn dathlu Diwrnod Roald Dahl 2017.

Ymddangosai Charlie, James, George, Sophie a Billy gyda’i gilydd mewn un lle am y tro cyntaf erioed a bydd Matilda’n ymuno a’r criw o’r 4ydd o Ragfyr 2018 i gydfynd ag agoriad sioe'r Royal Shakespeare Company, Matilda The Musical.

James a'r Eirinen Wlanog Enfawr

Yn wreiddiol ymddangosodd y chwe cherflun yn unigol fel rhan o’r Eden Project yng Nghernyw, Llyfrgell Ganolog Manceinion, Rheilffordd Nottingham, Theatr Caergrawnt yn Llundain, Sarn y Cawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chastell Caerdydd.

DAL LAN GYDA DAHL

Ganwyd Dahl yng Nghymru, ar 13 Medi 1916 i rieni Norwyeg a threuliodd ei blentyndod cynnar yng Nghaerdydd.

Bedyddiwyd Dahl carreg filltir i ffwrdd o’r Eglwys Norwyeg ac enwyd yr ardal gyhoeddus tu fas i’n hadeilad ar ei ôl er mwyn talu teyrnged iddo – Plas Roald Dahl.

Yn 2016, er mwyn nodi pen-blwydd Roald Dahl yn 100 mlwydd oed, daeth National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru at ei gilydd i greu Dinas yr Annisgwyl gyda rhaglen sblendigedig o berfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y ddinas.