Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Janatt - backstage at Wales Millennium Centre

Lleisiau Dros Newid

Rhannu ein hadeilad gyda chynulleidfaoedd, cymunedau ac artistiaid - dyma sy'n gwneud Canolfan Mileniwm Cymru yn lle hudol - lle mae cyfle i bawb fwynhau a thanio'u dychymyg.

Wrth i ni gadw'n ddiogel a chadw pellter corfforol oddi wrth ein gilydd, daw'n fwyfwy amlwg pa mor hanfodol yw'r celfyddydau. Mae adrodd storiâu, drwy eiriau, caneuon, cerddoriaeth, dawns, animeiddio ac ati, yn ein hadlonni ac yn procio'r meddwl, ond hefyd yn dod â ni ynghyd, yn enwedig pan fyddwn yn dod at ein gilydd ar gyfer y profiad.

Dyma sy'n cyfoethogi bywydau. Felly, pan ddaw'r cyfle i ni ddod ynghyd unwaith eto, rydyn ni am lenwi'n hadeilad eiconig gyda'ch lleisiau a'ch gwaith chi.

Arddangosfa ar waith

Dyma’ch cyfle chi i gael gwrandawiad, i weithio gyda ni fel cymuned a chreu arddangosfa wirioneddol gyffrous ar gyfer y dyfodol.

Ni wyddwn yn union beth fydd y canlyniad eto - bydd hyn yn dibynnu ar y math o bethau byddwn yn eu derbyn gennych chi dros y misoedd nesaf, ond be bynnag ddaw, ein nod yw adlewyrchu adeg benodol; lle ydyn ni heddiw a lle hoffem ni fod yn y dyfodol.

Rydyn ni’n gofyn i bawb: ein cynulleidfaoedd, cymunedau, cerddorion, beirdd, ffotograffwyr ac artistiaid lleol i’n helpu ni greu gwaith gosod newydd a fydd yn llenwi’n hadeilad ac yn dod â phawb ynghyd.

AM BETH YDYN NI’N CHWILIO

Mae’r prosiect hwn dan arweiniad y gymuned, ac yn gyfle i chi rannu eich gobeithion a’ch dymuniadau ar gyfer y dyfodol - felly lledwch eich gorwelion a byddwch ddychmygol.

Gallech chi anfon darlun neu baentiad, ffotograff neu bodlediad, cân neu restr ganeuon aton ni.

Cymerwch gipolwg ar ganllaw Molly ar gyfer sut gallwch chi greu podlediad ar eich ffôn symudol.

AM BETH YDYN NI’N CHWILIO

Mae’r prosiect hwn dan arweiniad y gymuned, ac yn gyfle i chi rannu eich gobeithion a’ch dymuniadau ar gyfer y dyfodol - felly lledwch eich gorwelion a byddwch ddychmygol.

Creodd Sarah McCreadie, yr artist gair llafar, y cyfansoddiad gwreiddiol yma ar gyfer Lleisiau Dros Newid.

Gallech chi anfon darlun neu baentiad, ffotograff neu bodlediad, cân neu restr ganeuon aton ni.

Anfonodd yr artist lleol, Michael Burgess, y ffilm fer yma am Bort Talbot yn ynysu dros benwythnos y Pasg - penwythnos sydd fel arfer yn fwrlwm o brysurdeb.

CHWILIO AM YSBRYDOLIAETH?

Dyma’ch stori chi hyd yma.

Efallai yn ystod y cyfnod yma o ynysu rydych chi wedi darganfod bod yna bethau gallwch chi fyw hebddynt, neu efallai bod yna rai pethau newydd fyddwch chi’n cymryd gyda chi pan ddychwelith fywyd arferol.

Beth fyddwch chi’n ei gofio fwyaf am y cyfnod rhyfedd yma? Beth yw eich pryderon ar gyfer y dyfodol? Beth fyddwch chi’n gwneud gyntaf unwaith daw ymbellhau cymdeithasol i ben?

Mae Lleisiau Dros Newid yn bwriadu cyfleu hyn a llawer mwy. Mae’n sgwrs gyda ni, sydd wedi’i harwain gennych chi.

CYMRYD RHAN

Wrth anfon eich gwaith aton ni rydych chi’n cytuno bod hawl gennym i'w ddennfyddio mewn ba bynnag ffordd yn y gwaith gosod terfynol. Efallai y bydd yn ymddangos yn rhannol neu’n llawn. Rydych chi hefyd yn rhoi caniatâd i ni ychwanegu’ch enw i’r rhestr o grewyr.