Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Llinellau o Wicked

10 o’r llinellau gorau fyddwch chi’n eu clywed wrth wrando ar Wicked, y sioe gerdd lwyddiannus.

1. "Are people born wicked or do they have wickedness thrust upon them?"

Dyma linell agoriadol y sioe sy’n cael ei dweud gan ‘Glinda’ yn ystod y gân “No One Mourns The Wicked” ac mae’n gosod y plot i gyd yn ei le yn daclus.

Mae Wicked yn treiddio i hanes cefndir The Wizard of Oz, a sut y daw 'Elphaba' merch ifanc wylaidd a chanddi groen gwyrdd, yn wrach ddrwg frawychus ... ond efallai ei bod yn fwy annwyl nag y tybiwn.

2. "You’ve got me seeing through different eyes."

Heb ddifetha’r stori ichi, mae’r llinell hon o’r gân "As Long As You’re Mine" sy’n cael ei chanu gan 'Fiyero'  i 'Elphaba' yn crisialu holl ethos y sioe; sef bod yn feddwl agored a pheidio â bod yn feirniadol o ymddangosiad pobl eraill.

Wrth i’r gân fynd rhagddi rydym yn dysgu bod 'Fiyero' yn gweld 'Elphaba' mewn goleuni newydd ac nad yw’n ei beirniadu yn ôl ei golwg yn unig.

3. "Because I knew you, I have been changed for good."

Thema arall hollbwysig yn Wicked yw cyfeillgarwch. Yn gwbl annisgwyl, daw 'Glinda' ac 'Elphaba' yn ffrindiau gorau ac yn y gân “For Good” mae’r ddwy yn myfyrio ar yr effaith maent wedi ei gael ar fywydau ei gilydd.

Mae’n gân brydferth sy’n eich cyffwrdd am gariad a chyfeillgarwch ac mae ei sain yn rhyfeddol yn Theatr Donald Gordon.

4. "Pink goes good with green."

'Glinda' sy’n dweud y llinell hon wrth 'Elphaba' pan ddaw’r ddwy yn ffrindiau am y tro cyntaf. 'Glinda' â’i phersonoliaeth siriol a’i dillad pinc ac 'Elphaba' â’i chroen sy’n naturiol wyrdd.

Mae 'Glinda' yn sylweddoli bod "pink goes good with green", ond y neges sylfaenol yma yw parodrwydd i dderbyn a chyfeillgarwch, waeth sut olwg sydd ar rywun.

5. "We can’t all come and go by bubble."

Mae na reswm pam y mae Wicked wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar Broadway am 15 mlynedd ac am 12 mlynedd yn y West End.... mae’n anhygoel o ddoniol.

Mae’r llinell hon gan 'Elphaba' wrth 'Glinda' bob amser yn gwneud i’r gynulleidfa chwerthin ac mae ‘na ryngweithio rhagorol rhwng Amy Ross, sy’n chwarae 'Elphaba' a Helen Woolf ('Glinda') yma yng Nghaerdydd.

6. "Maybe the driver saw green and thought it meant go."

Dyma’r llinell anfarwol a glywir pan yw 'Fiyero' yn ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf ac wrth iddo daro 'Elphaba' bron â’i gar, a dweud "Maybe the driver saw green and thought it meant go."

Beth sy’n ardderchog ynglŷn â’r math hwn o gomedi slapstic yw y bydd yn apelio at oedolion a phlant fel ei gilydd ac mae’r llinellau clasurol hyn yn denu’r cynulleidfaoedd yn ôl drachefn a thrachefn i glywed mwy.

Daw Aaron Sidwell â llond trol o hiwmor i’r rôl hefyd.

7. "Toss toss"

Mae 'Glinda' yn gymeriad hoffus tu hwnt ac yn yr olygfa hon (un o olygfeydd mwyaf doniol y sioe) mae hi’n ceisio dysgu 'Elphaba' i ymddwyn yn debycach iddi hi.

Mae "Toss toss" yn seiliedig ar y weithred o daflu ei gwallt mae 'Glinda' yn ei defnyddio i ddenu sylw’r bechgyn, ond mae ymdrechion 'Elphaba' i ddod yn fwy benywaidd ac i fflyrtio mwy yn drychineb llwyr.

8. "It’s time to trust my instincts, close my eyes and leap."

Daw’r llinellau hyn, sy’n cael eu canu gan 'Elphaba', o gân fwyaf adnabyddus Wicked, sef "Defying Gravity."

Mae 'Elphaba' yn sylweddoli nad oes troi’n ôl o’r sefyllfa y mae’n ei chael ei hun ynddi ond mae’n benderfynol o lwyddo, doed a ddelo.

Mae’r llinellau yn symbylol ac yn ysbrydoledig ac yn portreadu 'Elphaba' fel unigolyn penderfynol sy’n fodel rôl arbennig ar gyfer merched ifanc.

9. "My future is unlimited."

Mae llinell agoriadol hon y gân "The Wizard and I" – sef cân symbylol arall sy’n egluro’r hyn y gallwn ei gyflawni os byddwn wedi rhoi ein bryd ar hynny.

Thema gyffredin sy’n rhedeg drwy Wicked yw bod yn driw i chi’ch hun a mynd ar ôl y pethau a ddymunwch, ac mae’r gân hon yn crynhoi’r cwbl yn berffaith.

10 "Fiyyyyeeerrrooooo."

Llinell sy’n cael ei chanu gan 'Elphaba' yn y gân “No Good Deed”; dyma ffefryn pawb.

Yn ystod y gân, mae’r llinell aruthrol hon yn cael ei dal am hir iawn gan y gantores hynod dalentog Amy Ross ac mae’r foment yn un i’w thrysori.