Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cwsg dim mwy....

Macbeth

19 – 23 Mawrth 2019 

Cychwynna'r National Theatre ar ei thaith newydd gyda Macbeth ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar 29 Medi yn The Lowry Salford ar ôl cyfnod hynod lwyddiannus yn Llundain.

Mae’r addasiad newydd a beiddgar yma o un o glasuron mwyaf trasig Shakespeare yng nghanol olion dinistr rhyfel cartref gwaedlyd mewn byd ôl-apocalyptaidd llawn anhrefn ac ansicrwydd.

Ond bydd yn rhaid i chi aros tan fis Mawrth 2019 i'w weld yn y Ganolfan. 

Rydyn ni ar bigau'r draen i wybod mwy, felly aethon ni i gwrdd â'r cast newydd yn ystod eu hymarferion a chawsom sgwrs gyda Lady Macbeth ei hun, Kirsty Besterman.

Kirsty Besterman & Jack

Mae nifer yn dweud mai'r Macbeths yw cwpl priod hapusaf Shakespeare. Sut aethoch chi ati i ddehongli eu perthynas? 

Kirsty Besterman: Dwi bendant wedi ystyried hwn wrth wneud ymchwil ar fy nghymeriad. Mae Macbeth yn dweud mai Lady Macbeth yw ei gariad mwyaf. Mae'r brenin yn cyfeirio atynt gyda'r geiriau 'this great love', ac mae pawb yn eu gweld nhw fel y stori gariad hyfryd yma.

Fe benderfynon ni'n gynnar yn y broses bod y cwpl wedi colli plentyn yn ystod y rhyfel. Mae nifer o ddehongliadau o'r ddrama wedi cymryd hi'n ganiataol eu bod nhw'n anffrwythlon, ond roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol. Dwi'n credu bod rhywbeth hynod bwerus ynglŷn â'r syniad bod nhw wedi cael teulu.

A thrwy benderfynu nad ydyn nhw am gael rhagor o blant, maen nhw'n osgoi'r boen o golli un arall, roedd hyn yn gwneud llawer o synnwyr i ni fod cyd-destun ac amgylchedd y ddrama yn penderfynu hyn.

Macbeth

Mae hwn hefyd yn ysgogi Macbeth i fod yn frenin er mwyn iddo efallai ennill teulu arall, gan wybod y byddai'n cael ei amddiffyn. 

Ond, yn anffodus nid yw'r dyfodol ffantasiol yma'n dod yn realiti wrth i Macbeth ladd y brenin, a dod yn gaeth i'w wallgofrwydd ei hun... 

Sut wnaethoch chi ddod i'r afael a chryfder cymeriad Lady Macbeth? 

Kirsty Besterman: Mae hi'n fenyw cryf sy'n rhedeg yr ystâd tra bod Macbeth yn ymladd yn y rhyfel.

Nid yw hi yno'n plannu a gofalu am y tir, mae hi'n gwisgo dillad ymladd ac esgidiau Doc Martins cadarn felly mae hi'n berson bywiog iawn. Mae'n gyfrifoldeb arni hi i amddiffyn yr ystâd ac mae hi'n gwneud hyn yn ei ffordd ei hun. 

Ymarferion

Dwi'n caru'r ffaith nad yw Lady Macbeth yn gwisgo ffrog na corsed yn y cynhyrchiad yma. Mae real, yn ddaearedig a chanddi wreiddiau cadarn yn yr hyn sy'n weddill mewn byd sy'n llai ffurfiol ac yn fwy teg. 

Mae popeth yn eitha' chwaraegar ac ymlaciedig wrth ystyried pa mor dywyll yw'r sefyllfa. 

Mae'r propiau dyfeisgar am y cynhyrchiad yma'n adlewyrchu'r dirwedd lygredig, ôl-apocalyptaidd. Pa bropiau sy'n sefyll allan i ti?

Kirsty Besterman: Mae arfwisg Macbeth yn ddiddorol iawn oherwydd mae wedi cael ei ludo mewn i'r wisg gyda llawer o dâp-Gaffer. A dweud y gwir, mi wnes i ei helpu allan o'r wisg mewn un olygfa, felly rydyn ni wedi bod yn ymarfer hynny, er mwyn i'r dadwisgo ymddangos fel ail natur i Lady Macbeth

Fel Lady Macbeth dwi hefyd yn hoffi cario cyllell yn fy mhoced. Does gen i ddim cyllell fel brenhines, dim ond pan ar ben fy hun ac yn aros, mae gen i gyllell. 

Post-apocalyptic props

Fel y frenhines, dwi hefyd yn gwisgo math mwy ffurfiol o ddillad, ond mae'n goch a llachar ac mae wedi'i wneud allan o blastig sgleiniog felly dwi'n tybio mai dyna fy hoff brop.

Archebwch eich tocynnau i weld Macbeth yn y Ganolfan gwanwyn nesaf.