Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Gen I Hawl

Mae heddiw, dydd Llun 7 Rhagfyr, yn Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg, diwrnod i ni fel sefydliad godi ymwybyddiaeth o’r hawl sydd gennych chi i ddefnyddio’r Gymraeg.

A wyddoch y gallwch:

• Siarad â ni yn Gymraeg ar y ffôn neu wyneb yn wyneb (pan fyddwn yn ailagor)
• Ysgrifennu llythyr neu e-bost atom yn Gymraeg
• Cwyno wrthym yn Gymraeg os yw pethau'n mynd o chwith

Mae gan ein staff hefyd yr hawl i wasanaethau ac adnoddau yn Gymraeg. O’r cam cyntaf un - o weld hysbyseb swydd gyda ni - i’r broses recriwtio a drwy gydol eu gyrfa gyda Chanolfan Mileniwm Cymru.

Lanyard gyda'r bathodyn iaith gwaith

Dros y blynyddoedd rydym wedi cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim yn ystod oriau gwaith i'n staff, drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac rydym yn cefnogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'u sgiliau iaith yn eu swyddi o ddydd i ddydd.

P'un ai'n cysylltu â chwsmeriaid, yn creu cynnwys creadigol, yn trefnu digwyddiadau, neu'n gweithio i'n hadran adnoddau dynol, a llawer mwy - mae ystod eang o'n swyddi yn galw am sgiliau Cymraeg.

Buom yn siarad â rhai aelodau staff am eu profiad o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw...

Baner yr Urdd yn chwifio y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru

"Dechreuais ddysgu tua dwy flynedd yn ôl. Dw i’n dod o Loegr, ond ar ôl dechrau gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, roedd llawer o sgyrsiau’r swyddfa'n yn Gymraeg ac ro’n i eisiau ymuno. Dw i’n lwcus achos mae gen i lawer o gyfleoedd i ymarfer ac mae fy nghydweithwyr mor gefnogol. Ces i gyfle i weithio yn y swyddfa docynnau yn ystod yr Eisteddfodau - profiad arbennig."

Lawrence, Dadansoddwr Mewnwelediad Cwsmeriaid

Rydym yn cynnal sesiynau Clonc anffurfiol bob wythnos - cyfle hyfryd i ni ddod ynghyd (yn rhithiol ar hyn o bryd!) a sgwrsio yn Gymraeg. Byddwn yn trafod popeth - o'r newyddion, i gerddoriaeth, ffilmiau a'n cynlluniau dros y penwythnos. Mae'n gyfle i ni gymdeithasu yn Gymraeg a chefnogi dysgwyr.

"Dw i’n gwerthfawrogi defnyddio fy sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Mae e wedi agor fy nghylch cymdeithasol i gymuned Gymraeg unwaith eto ar ôl blynyddoedd o fyw yn Lloegr. Y peth dw i’n ei hoffi orau yw gweld faint mae fy iaith wedi gwella ers i mi ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru ac o fod yn rhan o weithle cefnogol sy’n deall pwysigrwydd yr iaith."

Lowri, Swyddog Adnoddau Dynol
Merch gyda gwallt hir tywyll yn gwenu ac yn siarad ar y ffôn

"Dw i’n gweithio’n ddwyieithog ac yn gwella fy sgiliau iaith bob dydd. Mae’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu ar ran theatr eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru yn rhywbeth rydw i’n hynod ddiolchgar amdano."

Jack, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol

"Dw i’n dysgu Cymraeg ac yn mwyhau ymarfer gyda’r tîm, cwsmeriaid a ffrindiau. Dw i’n hoffi siarad gyda fy mab sydd wedi dechrau mynd i ysgol Gymraeg. A minnau'n dod o Ffrainc yn wreiddiol, mae'n bwysig i mi ddysgu iaith y wlad rydw i'n byw ynddi."

Sophie, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid

A hithau’n flwyddyn heriol i bawb, mae’n gyfle braf heddiw i ddathlu rhywbeth positif, a gweld cynnydd parhaus. Ymunwch yn yr ymgyrch, drwy ddefnyddio’ch Cymraeg ar bob cyfle a defnyddio’r hashnod #MaeGenIHawl.