Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A collage featuring portrait photos of people

Meet a Mentor: Dylan and Prano

Rydyn ni’n falch o gydweithio â Create Jobs, i gyflwyno Meet a Mentor: Tu ôl y Lens; rhaglen fentora pedwar mis, wedi’i gyllido gan ScreenSkills.

Dyma Dylan Matthews, sy’n gobeithio bod yn actor/gyfarwyddwr a’i fentor, y cyfarwyddwr Prano Bailey-Bond yn trafod eu profiadau hyd yn hyn...

Dylan Matthews

Dylan Matthews

Mae Dylan yn egin actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr sy’n caru actio. Drwy ei astudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru mae Dylan wedi darganfod awydd i gryfhau’r cysylltiad rhwng y gynulleidfa a’r perfformiad. Mae e wedi perfformio yn ei theatr leol ac mae e wedi ymddangos mewn ambell ffilm a pherfformiad yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol.

PAM NES DI GOFRESTRU AR GYFER Y RHAGLEN?

Cofrestrais er mwyn datblygu gwell ddealltwriaeth o’r sector greadigol yr wyf am weithio ynddi. Mae’n gyfle hefyd i ddatblygu sgiliau newydd drwy dasgau bychain a sgyrsiau gyda fy mentor.

SUT WYT TI WEDI ELWA O’R RHAGLEN HYD YN HYN?

Hyd yn hyn, rydw i wedi cael mewnwelediad llawer gwell i gyfarwyddo actorion ac wedi cael llawer o ddeunydd darllen i’m helpu.

Rydw i wedi cael adborth ar fy ngwaith ysgrifennu yn ogystal â chynllunio cyfleoedd i rannu monologau a chaneuon yn y dyfodol.

Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd y rhaglen yn fy helpu gyda fy modiwl Actio i’r Camera a pharatoi ar gyfer sioe gerdd byddaf yn perfformio ynddi’n fuan. Mae wedi bod yn wych cael adborth rhywun sy’n gweithio i’r diwydiant creadigol.

PWY YW DY FENTOR A SUT MAEN NHW WEDI DY HELPU? 

Mae fy mentor, Prano Bailey Bond wedi bod yn fy helpu fel cyfarwyddwr parthed sut i weithio gydag actorion. Mae hi wedi rhoi cyngor gwych i mi yn barod ynglŷn â sut gallai sicrhau fy mod yn trin actorion gyda pharch a sut i weithredu syniadau mewn ffordd gynnil i gael y gorau o berfformiad actor.

BETH WYT TI’N GOBEITHIO’I GAEL O WEDDILL Y RHAGLEN, A SUT FYDD Y RHAGLEN YN HELPU DY YRFA YN Y DYFODOL?

Rydw i’n awyddus i ddatblygu fy nealltwriaeth y tu allan i’r brifysgol ac yn mawr obeithio y byddaf yn cryfhau fy narpar yrfa drwy ddatblygu dealltwriaeth well o gyfarwyddo ar gyfer y sgrin. Ar hyn o bryd rwyf wrthi’n cynllunio traethawd fy mlwyddyn olaf.

Bydd y traethawd yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng theatr a ffilm/teledu, a thybiaf y bydd yr holl wybodaeth rwy’n ei gael gan fy mentor yn fuddiol iawn i fy ngwaith.Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle yma.

Mae’n fuddiol iawn i mi gyfarfod rhywun sydd â phrofiad go iawn. Rydw i wedi cael gymaint o help a chyngor gwych yn barod

Prano Bailey-Bond

Prano Bailey-Bond

Enwodd Screen International Prano yn ‘Seren Yfory’. Mae ei gwaith yn cyfleu bydoedd dychmygol, gan gyfuno arddull dywyll gyda hudoliaeth iasol. Dangoswyd ei ffilm fer NASTY mewn dros 100 o wyliau, a chynhaliwyd y premiere yng Ngŵyl Ffilmiau BFI Llundain.

Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ôl-gynhyrchiad ei ffilm hir gyntaf a gyllidwyd gan y BFI, Film4 a Ffilm Cymru Wales. Cynrychiolir Prano fel ysgrifennwr-gyfarwyddwr gan Casarotto.

PAM NES DI GOFRESTRU AR GYFER Y RHAGLEN? 

Ges i’m magu yng nghefn gwlad Cymru y 1990au, a theimlais fod y diwydiant ffilmiau yn perthyn i fyd arall. Baswn wedi bod wrth fy modd petai gen i fentor bryd hynny, felly teimlais fod hwn yn gynllun gwerth chweil i mi ymrwymo iddo.

Mae angen gweithio ar gynrychiolaeth yn y diwydiant ffilm. Yn hynny o beth mae cymryd rhan yn y rhaglen yma’n ffordd i mi wneud cyfraniad pendant at well gynrychiolaeth.

SUT WYT TI WEDI ELWA O’R RHAGLEN HYD YN HYN? 

Wel, mae Dylan yn gofyn cwestiynau gwych sy’n gofyn i mi adlewyrchu ar fy ymarfer bersonol fel ysgrifennwr a chyfarwyddwr. Mae hyn bob amser yn beth da.

Mae ei angerdd yn ysbrydoledig ac mae’n bleser gallu ei arwain a chynnig cyngor. Mae hefyd yn bleser gwrando arno ac archwilio’r hyn mae e am ei gyflawni.

Rwy’n ystyried ei amcanion ef ar gyfer y rhaglen fel petai nhw’n amcanion personol gen i. Fel yna rydyn ni’n dau’n dysgu ac yn tyfu drwy’r broses

Mae’r cyfarfodydd ehangach gyda’r mentoriaid a’r cyfranogwyr eraill wedi bod yn ysbrydoledig hefyd – mae yna lawer o bobl dalentog yn rhan o’r rhaglen.

SUT WYT TI WEDI CEFNOGI DYLAN?

Mae Dylan yn actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr ifanc talentog. Yn ein sesiwn cyntaf fe ddarllenodd e ychydig o’i farddoniaeth. Roedd y farddoniaeth yn brydferth iawn, a’r cyflwyniad yn hyfryd.

Mae’n amlwg fod y sgiliau ganddo eisoes, felly mae datblygu ei hyder yn rhan bwysig o’r rhaglen. Hyd yn hyn rydyn ni wedi trafod y canlynol; cydweithio ag actorion, rhannu rhai o fy nhechnegau i a thrafod rhai o’r profiadau a’r heriau mae Dylan wedi’u hwynebu fel actor a chyfarwyddwr.

Rydyn ni wedi bod yn diffinio beth yw cyfarwyddwr i actorion a sut i gefnogi dy gast o actorion a chael y gorau ganddyn nhw. Rydyn ni wedi cael trafodaethau gwych ac yn mynd i edrych yn fwy manwl ar waith ysgrifennu Dylan a’i waith actio nesaf. O bosib byddwn yn gwneud ymarferion dros Skype. 

BETH WYTH TI WEDI’I DDYSGU O FOD YN FENTOR? A FYDDET TI’N ARGYMELL Y PROFIAD I ERAILL? 

Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd gwrando a gofyn y cwestiynau cywir, gan helpu’r cyfranogwr ddysgu pethau eu hunain – mae hyn mor bwysig a rhoi’r atebion.

Yn sicr mi faswn yn argymell y profiad i eraill – mae’n brofiad gwerth chweil sy’n rhoi amser i ti a’r cyfranogwr archwilio a thrafod dy grefft.

Darganfyddwch fwy am Meet A Mentor: Tu ôl y Lens.