Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Aelodau o gast The Boy With Two Hearts yn ymarfer: Dana Haqjoo, Farshid Rokey, Ahmad Sakhi, Géhane Strehler, Shamail Ali

Cwrdd â'r Cast: The Boy with Two Hearts

Dewch i gwrdd â chast ein addasiad llwyfan o The Boy with Two Hearts – stori o obaith, o Affganistan i Gymru.

Wedi'i ysgrifennu gan Hamed Amiri, ac yn seiliedig ar ddihangfa ryfeddol ei deulu o Affganistan, rydym yn falch iawn i groesawu ensemble anhygoel o chwe pherfformiwr fel cast The Boy with Two Hearts.

Fel y clywir ar Lyfr yr Wythnos BBC Radio 4, mae The Boy with Two Hearts wedi'i addasu ar gyfer y llwyfan gan Phil Porter, mewn cydweithrediad â'r brodyr Hamed a Hessam Amiri.

Mae'r teulu Amiri yn byw yng Nghaerdydd ac yn ymwneud yn agos â'r cynhyrchiad newydd hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

CWRDD Â'R CAST

Farshid Rokey – Hamed

Farshid Rokey

Mae Farshid yn chwarae Hamed Amiri, awdur The Boy With Two Hearts a mab canol y teulu Amiri. Mae Farshid wedi gweithio'n helaeth ar draws ffilm, teledu a theatr, gan gynnwys gyda'r Theatr Genedlaethol, y Birmingham Rep a'r Bristol Old Vic.

Ahmad Sakhi – Hussein

Ahmad Sakhi

Mae Ahmad yn chwarae'r brawd Amiri hynaf, Hussein – y cyflwr ar ei galon ef ychwanegodd pwysigrwydd at daith y teulu i'r DU. Mae Ahmad wedi serennu ochr yn ochr ag Orlando Bloom a Scott Eastwood yn The Outpost gan Amazon (2019).

Shamail Ali – Hessam

Shamail Ali

Shamail sy'n chwarae'r brawd Amiri ieuengaf, Hessam, a gydweithiodd hefyd ar yr addasiad llwyfan newydd hwn. Mae Shamail wedi gweithio ar draws theatr a theledu, gan gynnwys Casualty (BBC), Invasion (Apple TV) a Homeland (Showtime/Netflix).

Géhane Strehler – Fariba

Géhane Strehler

Mae Géhane yn chwarae mam y bechgyn, Fariba. Ei haraith hi am ryddid i fenywod Afghanistan wnaeth wylltio arweinwyr Taliban lleol, gan orfodi eu dianc o Herat. Hyfforddodd Géhane yn Ysgol Actio Guildford ac mae wedi gweithio'n helaeth ar draws theatr, teledu, ffilm a radio, yn y DU a'r Unol Daleithiau.

Dana Haqjoo - Mohammed

Dana Haqjoo

Dana sy'n chwarae tad ysbrydoledig y bechgyn, Mohammed. Mae Dana wedi gweithio ar draws theatr, teledu, ffilm a radio, gan gynnwys serennu yn The Ipcress File ar ITV yn gynharach eleni.

Elaha Soroor – Cyd-Gyfansoddwr a Chanwr

Elaha Soroor

Bydd y cyfansoddwr a'r canwr, Elaha Soroor, yn ymuno â’r pum aelod o deulu Amiri ar y llwyfan. Yn enillydd Gwobr Newydd-ddyfodwr Songlines Magazine 2020 a'r canwr yng nghynhyrchiad Ballet Cenedlaethol Lloegr o Giselle, bydd cerddoriaeth Elaha yn ychwanegu haen bwerus ychwanegol at stori ryfeddol y teulu Amiri.

Mae The Boy with Two Hearts yn gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru gan Hamed a Hessam Amiri, wedi’i addasu i’r llwyfan gan Phil Porter.

Cefnogir yn hael gan Bob a Lindsay Clark a Chronfa Ddiwylliant Sefydliad Garfield Weston.