Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cwrdd â’n sefydliadau preswyl

Rydym yn fwy na chartref i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru yn unig. Mae hefyd gennym wyth o sefydliadau preswyl yn gweithio yma. Dyma beth sydd gan rai ohonynt ar y gweill ar gyfer y mis yma.

Opera Cenedlaethol Cymru

Mae gan Opera Cenedlaethol Cymru tymor llawn dop ar gyfer Hydref 2019 a Gwanwyn 2020, gyda chynyrchiadau gwefreiddiol, gan gynnwys Carmen a Rigoloetto.

Archebu tocynnau

CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth: Gyda Valentina Peleggi yn arwain, bydd BBC NOW yn perfformio darnau gan ferched a oedd yn cyfansoddi yn y 19eg ganrif ac yn gynnar yn yr 20fed ganrif, gan gynnwys Concerto i’r Piano gan Clara Schumann gyda’r unawdydd Mariam Batsashvili, cerddoriaeth gan Florence Price, a’r perfformiad cynaf erioed o Roland furieux gan Augusta Holmès, a gyfansoddwyd ym 1876

CWMNI DAWNS CENEDLAETHOL CYMRU

Mae taith The Awakening yn cychwyn yn Nglan yr Afon, Casnewydd, ar 1 Mawrth, cyn mynd ar daith o amgylch y DU. Dros hanner tymor, gall teuluoedd ymuno â’r dawnswyr ar y llwyfan cyn gwylio perfformiad o Revellers’ Mass ar 2 Mawrth 2019, gyda Discover Dance.

Mae toreth o bethau’n digwydd yn Nhŷ Dawns hefyd, gan gynnwys yoga, dosbarthiadau dawns cyfoes a bale ar gyfer oedolion a phlant, a digonedd o berfformiadau.

TOUCH TRUST

Mae Touch Trust ar hyn o bryd yn cynnal diwrnodau agored ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed. Maent yn llawn celfyddydau, crefftau, dawns a cherddoriaeth. Mae’r manylion llawn i’w cael ar y dudalen Facebook. I archebu eich lle, ffoniwch 02920 635660 neu e-bostiwch Hiroko.Uenishi@touchtrust.co.uk.

HIJINX

Yn ddiweddar, enillodd Hijinx Wobr Ryngwladol 2019 The Stage a wnaeth gydnabod eu presenoldeb byd-eang cynyddol amlwg yn niwydiant y celfyddydau.

Agorodd y cyd-gynhyrchiad newydd sbon Into The Light yn Theatr y Sherman ar 15 Chwefror. Bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru a Lloegr 2019.

TŶ CERDD

Mae Cynllun Datblygu Cyfansoddwyr CoDI yn tynnu tua therfyn ei flwyddyn gyntaf a bydd cyfansoddwyr SIAMBR CoDI yn perfformio yn Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd gyda’r Berkeley Ensemble ar 10 Ebrill.

Mae’r cynllun BYDIAID CoDI diweddaraf ar gychwyn gyda phrosiectau i’w datblygu dros y misoedd nesaf ar draws Cymru.

Mae cyfres cyngherddau Neuadd Dewi Sant, HwyrGerdd wedi ychwanegu ambell ddigwyddiad arall at y dyddiadur gyda chomisiynau newydd gan Lenny Sayers ar 26 Chwefror a Lynne Plowman ar 9 Ebrill.

Ac os hoffech ddweud eich dweud, mae Tŷ Cerdd yn cynnal eu cyfarfod cyffredinol ar 9 Ebrill am 11:30am.

LLENYDDIAETH CYMRU

Y GADAIR WAG | THE EMPTY CHAIR

13 Chwefror - 15 Mawrth 2019

Yn dilyn taith gyntaf hynod lwyddiannus yn 2017, mae Y Gadair Wag | The Empty Chair yn dychwelyd i theatrau a lleoliadau ar draws Cymru a Llundain.

Wedi’i greu gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, a’i gyfarwyddo gan Ian Rowlands, a chyda chelf ddigidol gan Jason Lye-Phillips, mae Y Gadair Wag | The Empty Chair yn archwilio themâu colled a hunaniaeth, gan ddefnyddio ffilm a thechnegau arbrofol i edrych ar fywyd Hedd Wyn a’i waith ochr yn ochr â beirdd eraill o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

ESTYN YN DDISTAW

19 Chwefror 2019, 10.30am yn y Senedd, Bae Caerdydd

Wrth i ddigwyddiadau sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf dynnu tua’u terfyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn eich gwahodd i ddiwrnod o gnoi cil a thrafod rhyfel a heddwch, gyda darlleniadau a chyflwyniadau gan aelodau o’r Cynulliad, darlithoedd comisiwn, perfformiadau a chyflwyniadau gan rai o feirdd ac ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

URDD GOBAITH CYMRU

Mae’n ddegawd ers i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ym Mae Caerdydd yn 2009, ond mae’r ŵyl sy’n denu 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn yn dychwelyd i’r Bae rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2019.

Ac am y tro cyntaf mae mynediad i’r maes am ddim ar gyfer pawb.

Bydd rhaid i oedolion sydd am wylio cystadleuaeth – yn ystod y rhagbrofion neu ar lwyfan y pafiliwn – brynu band braich ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Mae bandiau braich bellach ar gael am bris gostyngedig o £13 tan ddiwedd mis Ebrill neu drwy ffonio’r Ganolfan ar 029 2063 6464.