Fel rhan o'n hymdrechion flwyddyn gyfan i ddathlu diwylliant Du a chymunedau ym Mae Caerdydd, mae gennym ni raglen gyffrous o ddigwyddiadau am ddim i nodi Mis Hanes Pobl Dduon.
Yn ogystal â goleuo ein harysgrif eiconig i nodi'r mis, rydyn ni'n cynnal cyfres o weithdai i ddathlu diwylliant Du'r mis Hydref hwn. Cynhelir pob gweithdy yn ardal cyntedd y Glanfa yn ein hadeilad, a gallwch ymuno â nhw am ddim.
Ac ar ddydd Sul 31 Hydref byddwn yn arddangos dau sesiwn llawn cerddoriaeth anhygoel gan dalent Ddu Gymreig newydd.
O grefftau wedi'u hysbrydoli gan y Windrush i ddawnsio afrobeat, mae 'na rywbeth at ddant pawb. Does dim angen archebu lle - dewch yn llu!
Gweithdy dawns afrobeat gyda Mujib Yahaya
Dydd Gwener 29 Hydref, 10am - 12pm. Oedrannau 15+
Bydd Mujib yn arwain cyflwyniad i'r arddull afrobeat sy'n fwyfwy poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol, o'r gwara gwara poblogaidd i'r dull Alanta sy'n llai adnabyddus.
Siwtcesys Windrush gyda June Campbell-Davies
Dydd Gwener 29 Hydref, 1 - 3pm. Agored i bob oedran
Dyma'ch cyfle i ddysgu mwy am y genhedlaeth Windrush drwy addurno eich hen siwtces eich hun. Bydd modd hefyd ddarllen a chadw copi o lythyr go iawn a anfonwyd gan aelod o'r genhedlaeth Windrush.
Darperir hen siwtcesys bach er mwyn eu haddurno.
Adrodd straeon gyda Mary-Anne Roberts
Dydd Sadwrn 30 Hydref, 10am - 12pm. Agored i bob oedran
Bydd y storïwraig Mary-Anne Roberts yn ystyried y tebygrwydd rhwng dwy stori dywyll - Clear Water/Dirty Water (o Haiti) a The Juniper Tree (o Ewrop). Ymunwch â chân a symudiad yn y sesiwn hon i'r teulu cyfan.
Creu marciau gydag Adéolá
Dydd Sadwrn 30 Hydref, 1pm - 3pm. Agored i bob oedran
Ymunwch ag Adéolá ar gyfer gweithdy celf creu marciau, gan ddefnyddio palet lliwiau cyfyngedig i dynnu patrymau, siapiau ac wynebau.
Mae 'creu marciau' yn disgrifio'r llinellau, dotiau, marciau, patrymau a gweadeddau gwahanol rydyn ni'n creu mewn darn o gelf. Gallent fod yn rhydd ac ystumiol neu dan reolaeth a thaclus.
Arddangosiad Ieuenctid
Dydd Sul 31 Hydref, 1pm - 3pm, cyntedd y Glanfa / Radio Platfform
Byddwn yn dathlu rhai o dalentau ifanc gorau Caerdydd gyda pherfformiadau gan y bardd gair llafar a rapiwr Te Fenty AKA CupsofTe, yr artist hip-hop Kinnigan, y canwr-gyfansoddwr The Honest Poet, a'r artist R&B a 'house' Niques.
Sesiynau NEXT UP
Dydd Sul 31 Hydref, 3pm - 5pm, cyntedd y Glanfa / Radio Platfform
Byddwn yn amlygu tri o'r artistiaid fwyaf yn ne Cymru: y penigamp R&B Faith, yr anhygoel electronig a neo-enaid Eadyth, a'r arloesydd rap pidgin Magugu.