Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Moethau Sul y Mamau

Ar y gweill mae gennym un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y West End, cynhyrchiad gwreiddiol llawn sêr, detholiad o sioeau agos-atoch a phrofiad ciniawa newydd. Anrhegion perffaith ar gyfer unrhyw fam.

Motown the Musical

Bydd eich mam yn sicr o ddawnsio i’r sioe gerdd boblogaidd yma, gyda thros 50 o ganeuon clasurol Motown gan gynnwys My Girl, What’s Going On, Dancing in the Street ac Ain’t No Mountain High Enough

The Mirror Crack’d

Mae mamau wrth eu bodd gyda bach o Marple, a bydd y ddrama gyffrous yma a seiliwyd ar nofel Agatha Christie yn ei chadw ar erchwyn ei sedd. Yn y dirgelwch seicolegol cyfoethog yma, mae gan bawb gyfrinach...

The Bodyguard

Yn cynnwys clasuron o ganeuon gan Whitney Houston, bydd eich mam wrth ei bodd gyda’r sioe ramantaidd, wefreiddiol, syfrdanol hon sy’n dod i’r Ganolfan ym mis Ebrill.

An Evening with Mal Pope

Mae pob mam yn caru Mal Pope. Mae’r canwr, awdur a storïwr Cymreig hynod dalentog yn cynnal noswaith agos-atoch o straeon a chaneuon yn ein bar cabaret Ffresh gyda hanesion lliwgar ei deithiau a’i yrfa, megis cyfansoddi caneuon ar gyfer un o frenhinoedd pop, Cliff Richard.

Jeff Hooper: Swinging with the Stars

Os yw eich mam yn hoff o swing, dewch â hi i noswaith yng nghwmni un o’r goreuon.

Ymunwch â Jeff Hooper i ddathlu un o gantorion swing blaenaf yr ugeinfed ganrif.

Mae Jeff yn un o ffefrynnau sioe BBC Radio 2: Friday Night Is Music Night, ac mae wedi perfformio gyda nifer o’r goreuon, gan gynnwys y Fonesig Shirley Bassey a Syr Tom Jones.

AMSER I WLEDDA

Ymunwch â ni yn ffresh ar Sul y Mamau eleni a thretio eich mam i ginio Sul am ddim pan fyddwch yn archebu cinio rhost tri chwrs.

Os prynwch aelodaeth ar gyfer eich mam am Sul y Mamau rhwng 15 Mawrth a 6 Ebrill, bydd hi’n derbyn gwydraid o Prosecco am ddim o unrhyw un o’n bariau. Darganfod rhagor.