Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Y Saith Syfrdanol o'r Movie Mixtape

Mae'r Seven Deadly Sins, Seven days of the week a'r Magnificents seven ond mae'r gorau ar y gweill. Dyma'r saith syfrdanol sydd wedi'i gynnwys yn y sioe Movie Mixtape sy'n dod i'r Ganolfan yn fuan.

Dywed yr arweinydd, David Mahoney am ei hoff ffilmiau sioe gerdd a'r caneuon hynod boblogaidd sy'n cael ei gynnwys yn y sioe Movie Mixtape: Songs from the Silver Screen ar 17 Tachwedd, yn serennu Lucie Jones, Noel Sullivan, Connie Fisher, Ian ‘H’ Watkins a'r The Novello Orchestra.

Mae'r byd ffilm wedi rhoi i ni rhai o'r darnau mwyaf eiconig o gerddoriaeth sydd wedi'u hysgrifennu erioed, gyda chaneuon y mae pawb yn gwybod ac yn caru (a mwy na thebyg yn canu pob gair ohonyn nhw... yn y gawod).

Gallwn i wedi rhaglenni deg sioe wahanol pan oeddwn i'n dewis rhestr o ganeuon ar gyfer Movie Mixtape, ond penderfynais i ar gyngerdd sydd ag amrywiaeth anhygoel o ganeuon gwefreiddiol am beth fydd yn noson fythgofiadwy llawn gerddoriaeth hudolus o fyd y ffilmiau.

Dyma rhestr o'n ffefrynnau i, a fydd i gyd yn cael eu cynnwys yn y sioe...

1. The Greatest Showman: This is Me

Dyma ffilm sydd yn wir wedi dod yn ffenomen dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ailfywiogi’r genre o ffilmiau sioe gerdd. Mae pawb wedi dod i wybod y caneuon, ac mae'r anthem rymus This is Me (sy'n cael ei ganu yn y ffilm gan yr anhygoel Keala Settle) wedi bod yn sail i'r gynulleidfa ymuno yn y canu mewn sawl arddangosiad.

A pha ffordd well sydd i orffen sioe na gyda'r gan yma fel diweddglo, gyda'r artistiaid gwadd, corws o westeion arbennig a sain wefreiddiol The Novello Orchestra?

2. The Lion King: Can You Feel the Love Tonight?

Faint o ffilmiau eraill sy'n adnabyddus ar ôl ei nodyn cyntaf?

Pan lansiwyd ym 1994, The Lion King oedd y ffilm animeiddiedig fwyaf llwyddiannus yn ariannol erioed. Enillodd y ffilm dwy Wobr Academi ar gyfer y gân Can You Feel The Love Tonight gan Elton John a Tim Rice a'r sgôr anhygoel gan Hans Zimmer.

Gyda lansiad yr addasiad weithredol-fyw newydd yn ddiweddar, gyda Beyonce a sawl wyneb cyfarwydd arall, mae'r ffilm yn ôl ar ben y rhestr o ffilmiau cerddorol anhygoel.

3. Moulin Rouge: Come What May

Mae sioe gerdd 'jukebox' gan Baz Luhrmann wedi'i seilio o amgylch addasiad tango gwefreiddiol o'r gân Roxanne, yn serennu Nicole Kidman ac Ewan McGregor yn derbyn amrywiaeth o farn ymysg y gynulleidfa ond dwi'n dwli arni, gyda thrac sain hynod ddiddorol!

4. Frozen: Let it Go

Yn 2014, dyma oedd hoff ffilm bron pob plentyn ac yn un o'r ffilmiau mwyaf poblogaidd Disney gyda llu o gymeriadau gwych (Olaf yw fy hoff un i) a thrac sain anhygoel, dim rhyfedd ei fod mor boblogaidd!

Dyma un o gasgliad o deitlau clasurol Disney sydd wedi'u cynnwys yn ein cyngerdd, gydag eraill yn cynnwys The Jungle Book a Hercules.

5. Mamma Mia: Medli o ganeuon

Ocei ... mae e'n 'guilty pleasure', ond pwy sydd ddim yn hoffi bach o Abba? Does dim lot mwy i ddweud am yr un yma ond ei fod yn mynd i gael pawb ar eu traed yn canu ac yn dawnsio.

6. ONCE: FALLING SLOWLY

Stori am gariad ac angerdd dau enaid coll – bysgiwr o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd – sydd yn dod o hyd i’w gilydd yn annisgwyl ac yn syrthio mewn cariad.

Yn dilyn eu perthynas ar draws pum diwrnod, mae newidiadau mawr ar y gweill i'r ddau ohonynt.

Wedi'i ddathlu am ei sgôr gwreiddiol yn cynnwys yr enillydd Gwobr Academi, Falling Slowly, mae Once yn stori hudolus a thwym-galon am obeithion a breuddwydion, wedi'i gosod gyda cherddoriaeth cefndir o bop gwerin Gwyddeleg. 

7. A Star is Born: Shallow

Ffilm am enwogrwydd, creadigrwydd a chariad. Mae'r caneuon gwreiddiol, sydd wedi'u hysgrifennu gan y cyfarwyddwr Bradley Cooper, y seren Lady Gaga, ei chydweithiwr Mark Ronson a'r cerddor Jason Isbell, i gyd yn ganeuon poblogaidd. Ac mae'r gân arobryn sydd wedi ennill Gwobr Oscar wir yn un o'r momentau mwyaf swynol yn y ffilm.