Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mynd am dro gyda Jo Fong

Aeth Molly Palmer, Cydlynydd Gorsaf y Porth Radio Platfform, am dro gyda'r Cydymaith Creadigol Jo Fong fel rhan o'i phrosiect Boed Hindda neu Ddrycin.

"Ymhle mae’n dechrau? O dan y geiriau hyn: CREU GWIR FEL GWYDR O FFWRNAIS AWEN, IN THESE STONES HORIZONS SING” yw'r geiriau rwy'n darllen ar wefan Jo wrth i mi baratoi i fynd am dro. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ond roeddwn i'n gyffrous i weld beth roedd Jo, un o Gymdeithion Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru, wedi paratoi ar gyfer ei phrosiect Boed Hindda neu Ddrycin.

Fe gyrhaeddais Fae Caerdydd gwyntog iawn er mwyn cwrdd â Jo o dan yr arysgrif. Wrth i mi gyrraedd, rhoddodd Jo dau ddarn o bapur i mi, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg yn dweud 'Oes gennym ni’r gallu i ddychmygu?' arnyn nhw. "Daliwch afael ar rhain" meddai Jo wrth i ni ddechrau ar ein taith.

Aethom ar hyd ochr y Senedd a lawr tuag at yr Eglwys Norwyaidd. Roedd cyfeillgarwch rhyngof i a Jo yn syth, gan fod rhywbeth am gwmni Jo a oedd yn gysur mawr wrth i ni ofyn llwyth o gwestiynau i'n gilydd am fywyd, gwaith, ein taith fel pobl greadigol, y gorffennol, y dyfodol a'r presennol. Rhoddon ni'r byd yn ei le, ac aethom heibio Gloworks a throi i'r dde tua'r morglawdd.

Roedd 'na rywbeth cathartig iawn am y tywydd ar y diwrnod hwnnw. Wrth i ni grwydro ar hyd y morglawdd roedd y gwynt yn gryf a dechreuodd lawio, ond wrth gyfuno hyn â'n trafodaeth ddifyr iawn rhywsut roeddwn i'n teimlo 10 gwaith yn ysgafnach nag ar ddechrau'r daith.

Wrth i ni gerdded nôl, gofynnodd Jo i mi gymryd y cardiau allan o'm mhocedi. Gosododd amserydd ar gyfer chwe munud er mwyn i ni geisio ateb y cwestiwn. Roedd yn chwe munud hir, ond wrth i ni gerdded roedd gen i ddigon o amser i feddwl am y cwestiwn a fy ateb.

Rhoddodd Jo'r gofod i mi ac ysgogodd i mi feddwl am ddychymyg mewn ffordd newydd. Roeddwn i'n hoff o'r ffaith bod Jo wedi gwneud yr un peth; gwnaeth Jo yr un un ymarferion â minnau.

Erbyn i ni ddychwelyd, roedd y ddwy ohonom yn gwbl wlyb. Er bod fy nghot yn drwm a llawn dŵr, roeddwn i'n teimlo'n ysgafn ofnadwy ar ôl y profiad hwn. Mae Jo yn wych am wrando ac adrodd stori. Fy ngwers i o'r daith hon yw y gallai fod beth bynnag y dymunwch, gan fod Jo wedi creu'r gofod i chi.

Mae Jo Fong yn un o'n wyth Cydymaith Creadigol, a phob un yn gweithio i ddod â phobl ynghyd. Mae cysylltu â phobl wyneb yn wyneb yn rhywbeth sydd wrth wraidd ei gwaith.

Mae Jo yn gwneud hyn drwy gysylltu, trafod, gwrando, dysgu a dad-ddysgu. Mae Jo yn defnyddio'r dulliau hyn drwy gydol ei gwaith tra'n cefnogi a chael ei chefnogi gan artistiaid yma yng Nghymru, yn Lloegr a thu hwnt.

Roedd y ffordd y mae Jo'n gweithio'n glir iawn yn ystod ein taith, ac roedd y technegau hyn yn ffordd dda iawn o danio fy ymennydd. Bron fel massage i'r meddwl!

Os hoffech chi fynd am dro a siarad gyda rhywun heb deimlo fel bod amser yn llusgo heibio, a chael ychydig o ofod yn eich dydd i feddwl a theimlo'n rhydd, rwy'n argymell mynd am dro gyda Jo.

Mae taith gerdded nesaf Jo Fong yn digwydd dydd Mercher 30 Mawrth 2022 am 11am, tu allan i brif fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i Boed Hindda neu Ddrycin - Jo Fong.