Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Man with pink hair and moustache putting on red lipstick

Mynd i'r Ŵyl Ymylol

Mae Gŵyl Ymylol Caeredin – sy’n dathlu ei phenblwydd yn 75 mlwydd oed eleni – yn un o uchafbwyntiau calendar theatr y DU.

Ac mae Canolfan Mileniwm Cymru yn enw cyfarwydd yn y digwyddiad blynyddol anhygoel yma ers i ni ddechrau cynhyrchu a chyd-gynhyrchu ein sioeau ein hunain 10 mlynedd yn ôl.

Creodd Man to Man argraff fawr ar gynulleidfaoedd ac adolygwyr yn 2015, ac yn 2019 cafodd yr hynod ddawnus Carys Eleri lwyddiant ysgubol gyda Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff). Os golloch chi’r sioe bryd hynny, gallwch wrando arni ar BBC Radio 4 yma.

Carys Eleri
Carys Eleri

Eleni, rydyn ni’n cefnogi tair sioe ffantastig yn yr Ŵyl Ymylol ym mis Awst.

Yn dilyn rhediad yn y Ganolfan ym mis Ebrill lle gwerthwyd pob tocyn, caiff sioe gerdd un-person Luke Hereford, Grandmother’s Closet – cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru – ei pherfformio yn adeilad Summerhall.

Mae’r ddrama hunangofiannol yma gan yr awdur tro cyntaf (a gwneuthurwr theatr hir-amser) Luke Hereford yn delio â hunaniaethau cwiar, a sut y dysgodd Luke i garu ei hunaniaeth e gyda help ei fam-gu a'i chwpwrdd dillad lliwgar.

Luke Hereford

Mae’n cynnwys trefniadau modern o glasuron pop gan eiconau benywaidd yn cynnwys Madonna, Kate Bush, Tori Amos, Judy Garland a Björk, a'i gyfarwyddo gan gyfarwyddwr am y tro cyntaf (ac actor hir-amser) François Pandolfo.

Fel yng Nghaerdydd, mi fydd perfformiad sy'n ystyriol o ddementia.

Hefyd yn Summerhall, mae ein Cydymaith Creadigol Jo Fong yn cyd-weithio eto gyda George Orange i greu The Rest of Our Lives – cabaret am fywyd a nesáu at farwolaeth a gaiff ei berfformio 16-28 Awst. Hen ddawnswraig yw Jo, a George yn hen glown.

Maen nhw’n artistiaid rhyngwladol sydd â chanrif o brofiad bywyd rhyngddyn nhw. Mae’n nhw wedi cyrraedd hanner ffordd, a bellach yn edrych ar weddill eu bywydau ac yn tybio, be nesa? Mynnwch docyn.

Ac yn olaf, heddiw mae’r Traverse Theatre eiconig yng Nghaeredin wedi cyhoeddi eu rhaglen am yr Ŵyl Ymylol eleni. Mae’n cynnwys Blood Harmony; drama newydd hynod weledol â cherddoriaeth wefredig am gariad, colled ac etifeddiaeth.

Mae’n fyfyrdod grymus, agos-atoch am alar a’r clymau cudd o fewn i deuluoedd. Mae Blood Harmony wedi’i greu gan Matthew Bulgo, Jonnie Riordan, a Jess Williams a’i gomisiynu a’i gynhyrchu gan ThickSkin a Lawrence Batley Theatre, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Watford Palace Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru a’i gefnogwyd gan The Lowry. Gallwch weld Blood Harmony yn y Traverse Theatre 6-28 Awst.

Mi fydd y tri cynhyrchiad yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd mae’r Ŵyl Ymylol yn ei chynnig, wrth i anfonogion, torf o adolygwyr a chynhyrchwyr craff yn chwilio am eu llwyddiant mawr nesaf sgwrsio â miloedd o artistiaid yn ysu am rannu eu gwaith diweddaraf.

Rydyn ni’n hynod falch o’r tri ac yn dymuno pob hwyl iddyn nhw!