Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Nadolig Llawen

Wrth i ni nesáu at ddiwedd blwyddyn dra wahanol, rydyn yn myfyrio ar y cyfnodau heriol a wynebwyd ac sy’n dal i’n hwynebu ac yn teimlo’n ddiolchgar i bawb sydd wedi’n cefnogi ar hyd y flwyddyn.

Nid yw’n bosib i ni eich gwahodd chi i’n hadeilad y Nadolig hwn, ond mae gennym ni ambell beth Nadoligaidd i chi eu mwynhau o bell.

Mae ein ffenestri blaen yn gartref i arddangosfeydd prydferth ar hyn o bryd…

Fel arfer, byddai Hijinx yn cyflwyno eu sioe Nadolig flynyddol yn ein Stiwdio Weston ar hyn o bryd, ond gan nad yw hyn yn bosib eleni, mae’r cwmni wedi creu profiad cwbl newydd.

Drwy gydol mis Rhagfyr mae’r cwmni’n cyflwyno 12 Diwrnod o BAWB, gŵyl ar-lein sy’n dangos bob un o’u prosiectau cyfranogi, gan gynnwys perfformiadau y gellir eu mwynhau ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Maent hefyd wedi cydweithio â myfyrwyr o Brifysgol de Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i greu gwaith celf hyfryd y gellir ei weld ar-lein ac yn ffenestri blaen Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r arddangosfa hon i’w gweld ar ochr chwith yr adeilad, wrth i chi sefyll o flaen yr adeilad. I’r dde, fe welwch fod tenantiaid newydd wedi symud i mewn i gadw’n glud rhag yr oerfel…

Roedd hi’n bleser cydweithio â’n partneriaid, Carnifal Trebiwt, i gyflwyno’r arddangosfa o lusernau prydferth a grëwyd gan yr artistiaid lleol Niki ac Alice Fogaty. Fe welwch Barnabus y dylluan, Frank y pengwin a Juniper ei fychan, a Harriet yr ysgyfarnog mewn byd gaeafol a hudolus.

Llusern ar ffurf tylluan ar gefndir tywyll

Wedi’u gwneud â llaw a’u goleuo o’r tu fewn, daw’r cymeriadau hyfryd yma a thamaid o swyn y Nadolig. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur hefyd, yn creu nifer o lusernau a fydd yn ymuno â’r arddangosfa, a gobeithiwn yn fawr y medrwn fynd â’r llusernau ar ein parêd blynyddol yn y flwyddyn newydd.

Ac ar flaen ein hadeilad fe welwch hefyd waith celf lliwgar a llon sy’n dymuno ‘Nadolig Llawen’ i bawb.

Siôn Corn yn ei wisg coch a gwyn yn sefyll o flaen cefndir glas

Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan, yna beth am ffrydio ein cynhyrchiad Nadolig Raymond Briggs’ Father Christmas, am gyn lleied â £10? Rydyn ni wedi ymuno â’r Lyric Hammersmith Theatre a Pins and Needles, i gyflwyno eu sioe Nadolig hynod boblogaidd. Unwaith y byddwch yn talu am docyn, gallwch wylio’r sioe cynifer o weithiau a fynnwch. Beth gewch chi’n well na sioe theatr i’w mwynhau o’ch ystafell fyw gynnes a chlud? Darganfyddwch fwy.

Byddwn yn cymryd gwyliau estynedig dros y Nadolig, yn barod i ddod yn ôl yn llawn egni ar gyfer 2021. Hoffem ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd hapus ac iach i chi.