Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Neuadd Hoddinott y BBC: Deng Mlynedd

Mae treulio deng mlynedd yn byw neu’n gweithio yn unrhyw le yn achlysur i’w nodi a’i ddathlu.

Wrth ystyried y newid mawr a fu yn hanes teulu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrth iddynt ymgartrefu yn Neuadd Hoddinott yn 2009, mae hwn yn gyfle unigryw i ddathlu pen-blwydd nodedig gyda chyngerdd arbennig.

Yn dilyn symud rhan helaeth o waith y BBC o’r Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, mae Neuadd Hoddinott wedi datblygu’n ganolfan brysur ac yn ofod perfformio i dros 200 o bobl – y gerddorfa, y corws a’r tîm rheoli – ac yn lleoliad ar gyfer miloedd o oriau o ymarfer, recordio, perfformio cyhoeddus a gwaith gweinyddol.

Gyda’r rhaglen ddathlu yma, roeddem yn awyddus i adlewyrchu nifer o bethau, ond yn benodol roedd yn gyfle i ni edrych yn ôl ac ymlaen, gan ddangos beth mae’r gofod perfformio yn ei gynrychioli fwyaf i ni, ei breswylwyr diolchgar.

Mae cerddoriaeth newydd wedi blaguro yn y Neuadd, a cherddoriaeth o bob math wedi cyffwrdd â chynulleidfaoedd a’u cyfareddu.

Roedd hi’n holl bwysig ein bod ni’n cynnwys gwaith gan Alun Hoddinott, fel y cyflwynwyd yng nghyngerdd agoriadol y neuadd ym mis Ionawr 2009.

Taliesin oedd ei waith cyflawn olaf, ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC rai misoedd ar ôl agoriad swyddogol y neuadd hon ym mis Hydref 2009.

BBC National Orchestra of Wales

Gan i Neuadd Hoddinott ddarparu llwyfan ar gyfer cynifer o berfformiadau premier byd yn ystod ei ddegawd cyntaf, roedd yn bwysig i gynnwys darn o waith newydd sbon yn y cyngerdd yma hefyd.

Mae gwaith Kenneth Hesketh, Uncoiling the River – comisiwn ar y cyd rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Philharmonig Lerpwl, yn cynnwys darn i’r pianydd Clare Hammond sy’n derbyn yr her nid yn unig o chwarae’r Steinway yn y dull confensiynol, ond hefyd o chwarae gyda ‘morthwylion ffrithiant’ (a ddefnyddir fel arfer gydag offerynnau taro) a menig ffelt – heb sôn am chwarae set o ‘glychau desg’ mewn adran a ysbrydolwyd gan Asia. Gwefreiddiol.

Pam ar wyneb y ddaear ydyn ni’n newid yr arweinydd yn ystod yr egwyl? Wel, roedden ni’n teimlo bod cyfle yn y cyngerdd yma i ddangos faint o newid a fu ym myd cerddoriaeth glasurol yn y degawd diwethaf. Yn 2009 roedd arweinwyr benywaidd yn brin iawn.

Erbyn hyn, diolch byth, mae llawer mwy o ferched yn arwain, ac mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn falch iawn o weithio’n aml gyda nifer o arweinyddion benywaidd gwych.

Mae Martyn Brabbins yn westai uchel ei barch a wahoddwyd yn rheolaidd i Neuadd Hoddinott dros y degawd diwethaf, a bydd hynny’n sicr o barhau yn y dyfodol.

Bydd Holly Mathieson o Seland Newydd yn arwain gyda ni am y tro cyntaf heno; mae hi’n cynrychioli cenhedlaeth newydd gyffrous o arweinyddion benywaidd a fydd yn sicr yn rhan o’r byd cerddorfaol am y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn ymfalchïo yn y modd yn maen nhw’n cefnogi cyfansoddwyr benywaidd, ac roedd yn bwysig ein bod yn cynnwys gwaith dwy ohonynt.

Mae’r ddwy yn Gymry, ac yn cynrychioli dwy genhedlaeth hollol wahanol, a phleser o’r mwyaf yw eu cynnwys yn y rhaglen yma. 

Mae gwaith Sarah Lianne Lewis yn un o ddarganfyddiadau pwysicaf ein rhaglen Composition: Wales (sy’n dychwelyd yn hwyrach y mis yma), ac mae Brass Express gan Rhian Samuel yn caniatáu i ni arddangos doniau un o’n prif offerynwyr sef, yn yr achos hwn, y trympedwr Philippe Schartz.

Yn olaf, mae dewis Holly Mathieson o waith Andrej Panufnik, Sinfonia Sacra, yn gyfle gwych i ni ddangos dawn y gerddorfa yn y gofod arbennig yma.

Ar ddechrau’r darn, bydd ffanfer trwmped yn amgylchynu gweddill y gerddorfa, gan arwain at waith soniarus, apelgar fydd yn eich cyfareddu, eich syfrdanu a’ch hoelio yn eich seddau. 

Roedd hynny’n teimlo’n ffordd addas i ni orffen rhaglen sydd, yn y bôn, yn ffordd o ddiolch i adeilad am fod yn gartref mor arbennig i’r cerddorion, ac i’r gwrandawyr sy’n mwynhau eu gwaith.

Meurig Bowen – Pennaeth Cynllunio Artistig, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 25 Ionawr, i ddathlu deng mlynedd o Neuadd Hoddinott y BBC. Tocynnau £15. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.bbc.co.uk/events/ed3d2m