Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ni’n tanio’r dychymyg: Prendy

Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni'n rhedeg amryw o gysiau hyfforddi cyffrous am ddim ar gyfer pobl ifanc 14 – 25 oed drwy ein rhaglen Llais Creadigol.

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Drwy roi’r sgiliau, y gofod a’r amser i bobl ifanc greu, rydyn ni’n gobeithio tanio dyhead ac annog hunan-gred

Ymunodd Prendy â ni ar gwrs radio chwe wythnos tair mlynedd nôl a dyw e heb edrych nôl!

Yn ogystal â chynhyrchu ei sioeau grime ei hun ar gyfer Radio Platfform, mae e hefyd yn gwneud gwaith DJ a chynhyrchu digwyddiadau cerddoriaeth byw ‘Next Up’ ar ein cyfer.

Cymerwch olwg ar ei hanes...

Waeth beth yw eich diddordeb – p’un ai radio neu greu ffilmiau – neu os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, mae gennym ni bedwar cwrs gwych ar eich cyfer chi.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.