Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Nôl i'r dosbarth

Copyright © Simon Ridgway, 2018 - www.simonridgway.com

Mae Sophie Garrod, ein Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu ymhlith y grŵp nesaf o'n staff sy'n mynd i astudio Cymraeg ar y cwrs dwys. Buon ni'n dal i fyny gyda hi cyn ei gwers gyntaf.

Helo Sophie, cyflwyna dy hun.

Dw i'n dod yn wreiddiol o dde Llundain. Symudais i Gymru yn 2015 i astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwyf wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd byth ers hynny. Dwi wrth fy modd yma.

Dw i wedi bod yn gweithio yn y Ganolfan ers mis Hydref 2018. Rwy'n aelod o'r tîm marchnata a chyfathrebu - sy'n berffaith i mi, gan fy mod yn caru'r theatr.

Sophie gyda dwy o 'Angels' Kinky Boots, yn noson y wasg y sioe boblogaidd

Pam benderfynaist di ddysgu Cymraeg? 

Penderfynais ddysgu am nifer o resymau. Yn gyntaf allan o barch i'r iaith... Cyn dod i weithio yn y Ganolfan, doedd gen i ddim ymwybyddiaeth o hanes yr iaith. Roedd y ffaith bod yr iaith wedi cael ei gormesu am gy-hyd yn agoriad llygad i mi. Roedd gen i gymaint o barch tuag at y bobl hynny a fu'n brwydro dros y Gymraeg. Teimlais felly bod hi'n bwysig i mi ei dysgu.

Petawn i'n symud i wlad arall fel Sbaen er enghraifft, baswn yn gwneud ymdrech i ddysgu'r iaith, ac felly mae'n bwysig i mi ddysgu Cymraeg. 

Hefyd, o safbwynt personol, mae'n ddatblygiad personol gwych ac yn ffordd i gynyddu fy sgiliau ar gyfer y gweithle. 

Beth wyt ti'n gobeithio'i gael o'r cwrs?

Hoffwn gael lefel sylfaenol o Gymraeg wrth ysgrifennu, darllen, gwrando a siarad - os fydd hynny'n bosib! Bydd unrhyw beth arall yn fonws!

Sut wyt ti'n rhagweld bydd y cwrs yn buddio dy waith o ddydd i ddydd?

Er mai Saesneg yw iaith fy ngwaith bob dydd, dwi'n aml yn gweithio ar nosweithiau'r wasg a digwyddiadau, ac rwy'n dod mewn i gysylltiad gyda darlledwyr ac aelodau o'r wasg sy'n siarad Cymraeg - fel Heno S4C. Byddai gallu cyfathrebu gyda nhw yn wych. Dw i'n meddwl y bydd yn help mawr i mi wrth greu cysylltiadau a rhwydweithio - mae mymryn o Gymraeg yn well na dim.

Faint o Gymraeg sydd gen ti ar hyn o bryd, cyn dechrau'r cwrs?

Os dw i'n canolbwyntio, gallai ddweud dyddiau'r wythnos a chyfri i 10 ac rwy'n adnabod ambell fis. Weithiau byddai'n dweud 'bore da' neu 'brynhawn da' yn y swyddfa, ac os ydw i'n teimlo'n ddewr bydda i'n gofyn pwy sydd eisiau 'paned'. Ond dyna'r oll dwi'n gwybod ar hyn o bryd! Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at y cwrs.

Byddwn yn dal i fyny gyda Sophie eto yn hwyrach yn y flwyddyn i weld sut mae hi'n gyrru 'mlaen. Pob lwc!

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n arwain y cyrsiau sydd ar gael i'n staff.