Mae’r dyddiau’n mynd yn gynhesach, mae’r nosweithiau’n estyn. Does angen ichi aeafgysgu bellach: camwch i’r gwanwyn gyda’r nosweithiau mas gwych yma...
Lucie Jones
16 Mawrth 2019
Mae hi wedi cynrychioli’r DU yn Eurovision a gadael argraff ddofn ar y West End, a dyma hi’n ymddangos am un noson yn unig yn ffresh. Ymunwch â Lucie Jones am noswaith o ganu swynol a thipyn o chwerthin wrth iddi berfformio caneuon o’i hoff ffilmiau a sioeau cerdd, a gan ei hoff artistiaid recordio.
IF YOU DON'T NOEL ME BY NOW
19 Ebrill 2019
Ers ei ddyddiau canu pop fel aelod o’r band Hear’say, mae Noel Sullivan wedi sicrhau gyrfa lwyddiannus i’w hunan ym myd sioeau cerdd, gyda rhannau blaenllaw yn We Will Rock You, Dirty Rotten Scoundrels, Priscilla Queen of the Desert, ac un o’n sioeau ni: Tiger Bay. Ymunwch ag e am noswaith o gerddoriaeth hyfryd a hanesion digrif.
Donna Marie: #MyGagaLife
20 Ebrill 2019
Y ferch o Grangetown sydd yn feirniad teledu enwog a’r deyrnged orau i Lady Gaga yn y byd. Byddwch yn gwirioni arni wrth iddi berfformio rhai o’r clasuron a rhannu straeon ysbrydoledig am ei bywyd a’i gyrfa. Ond gwisgwch eich esgidiau dawnsio, am fod Donna Marie yn addo parti hollol Gaga i gloi’r noson.
Adam Kay
8 + 28 Ebrill 2019
ond nid gormod am y byddwch chi’n chwerthin gormod i sylwi. Bydd y digrifwr arobryn Adam Kay yn rhannu straeon o’i ddyddiadur fel doctor ifanc mewn noson gwefreiddiol o stand-yp a cherddoriaeth sy’n siŵr o’ch diddanu.
CALENDAR GIRLS THE MUSICAL
30 Ebrill – 11 Mai 2019
Calendar Girls The Musical yw cynhyrchiad arobryn Gary Barlow a Tim Firth sy’n seiliedig ar hanes gwir y 'calendar girls' - grŵp bach o fenywod cyffredin a wnaeth fyd o wahaniaeth. Yn syth o West End Llundain, peidiwch â chollwch y sioe wych hon.