Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

O Ffwrnais Awen

Does dim dwywaith amdani, mae eleni wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb. Pan gaewyd ein drysau i’r cyhoedd ym mis Mawrth, fe gollon ni 85% o’n hincwm dros nos. Ond, fe wyddom fod llawer o waith creadigol y gallem fwrw ymlaen gydag, ond i ni allu ei ariannu...

Dyna pam mae eich cefnogaeth chi wedi bod mor bwysig. Hebddo, byddai popeth wedi dod i stop.

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi rhannu rhai o’r newidiadau rydyn ni’n eu gweithredu er mwyn diogelu ein dyfodol. Rydw i mor falch ein bod ni wedi parhau gyda’n prosiect Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd, a’n bod ni wedi peilota cyrsiau hyfforddi creadigol newydd am ddim.

Charnifal Trebiwt

Fe wnaethon ni hefyd gydweithio â Charnifal Trebiwt a grwpiau cymunedol eraill. Fe lansion Lleisiau Dros Newid , ac rydyn yn parhau i ddatblygu dau Gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer 2021.

Buom hefyd wrthi’n mentora doniau newydd ac yn cefnogi gweithwyr llawrydd creadigol ble bynnag oedd cyfle, a pharhaodd y tîm ifanc anhygoel tu cefn i Radio Platfform, ein gorsaf radio o dan arweiniad pobl ifanc, ddarlledu o’u hystafelloedd gwely.

cyflwynydd radio ifanc
Luke Davies, Cyflwynydd Radio Platfform

Mae ein tîm Datblygu, sydd dan fy ngofal i, wedi bod dan bwysau sylweddol i ddod o hyd i ffynonellau incwm newydd a chynnal y berthynas sydd gennym gyda’n cymunedau.

Er gwaetha’r ffaith ein bod yn dîm llai o faint erbyn hyn mae Esyllt, Cecily, Lucy a finnau wedi llwyddo i wneud hyn a pharhau i gydweithio’n agos â’n timoedd creadigol. Roedd gofyn i ni fod yn greadigol a meddwl am bopeth o’r newydd, ond wrth wneud hyn, rydyn yn datblygu’n dîm fwy deinamig, gwydn ac amrywiol at y dyfodol.

Felly diolch i bawb ohonoch sydd wedi cyfrannu pris eich tocyn yn hytrach na gofyn am ad-daliad, wedi prynu tocynnau ar gyfer 2021 ac wedi ychwanegu rhodd, neu’r rheiny ohonoch sydd wedi prynu talebau rhodd neu wedi enwi sedd.

Roedd hi’n galonogol gweld cynifer ohonoch yn aros yn aelodau ac yn adnewyddu’ch aelodaeth, a’r rheiny ohonoch sydd wedi addo cefnogi Cynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer flwyddyn nesaf.

Ni fyddai’r cynyrchiadau hyn yn digwydd heb eich cefnogaeth. Ochr yn ochr â chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau allweddol ac aelodau corfforaethol sydd wedi llwyddo i barhau â’u cefnogaeth, rydych yn ein galluogi ni i barhau â’n gwaith a chynllunio tuag at ailagor yn 2021. Gobeithiwn yn fawr y bydd dathlu mawr wrth i ni ailagor.

Pan ddechreuais yn y swydd hon yn gynharach eleni, nid dyma’r flwyddyn oeddwn i’n ei disgwyl. Ond, rwy’n falch o gydweithio a phobl anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yng Nghymru ac i ddyfodol y celfyddydau i bawb ohonom.

Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod cynifer ohonoch â phosib yn ystod 2021, a chael cyfle i estyn diolch wyneb yn wyneb.

Diolch o galon

Sian

Sian Morgan - Cyfarwyddwr Datblygu a Phartneriaethau

Os hoffech wybodaeth bellach am sut y gallwch gefnogi ein gwaith yna e-bostiwch datblygu@wmc.org.uk

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi