Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

DATHLU EIN GRANT ELUSENNOL MWYAF ERS EIN HAGORIAD

Mae mis Chwefror wedi cychwyn gyda newyddion ardderchog. Rydyn ni wedi derbyn grant o £823,000 gan Sefydliad Garfield Weston, rhan o Gronfa Ddiwylliant Weston.

Sefydlwyd y gronfa newydd, unigryw hon o £30 miliwn er mwyn cefnogi’r sector ddiwylliannol mewn ymateb i effaith drychinebus pandemig y Coronafeirws.

Elusen creu grantiau yw Sefydliad Garfield Weston a sefydlwyd gan deulu dros 60 mlynedd yn ôl. Mae’r sefydliad yn cefnogi achosion da ledled y DU ac fe gyfrannodd dros £88miliwn y llynedd.

Cychwynnodd ein perthynas gyda nhw 15 mlynedd yn ôl, pan dderbyniom fuddsoddiad sylweddol tuag at ein Stiwdio Weston. Mae’r grant newydd yma’n bennod newydd yn ein perthynas barhaus.

Bydd ein rhan o’r gronfa hon, sydd gyfwerth â blwyddyn o gyllido ar gyfer 2021, yn cefnogi ein huchelgais o greu gwaith arloesol newydd. Fe fydd yn cefnogi ein nod o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn cefnogi’r platfformau digidol hynny a fydd yn ein caniatáu i gyflawni’n huchelgais.

Mae gennym ni lawer o syniadau ar gyfer arddangos Cymru i’r byd, a gwyddwn fod llu o storïau a lleisiau yn aros am wrandawiad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag artistiaid a gwiethwyr llawrydd ledled Cymru i ddod a’r rhain i fodolaeth.

Efallai bod rhai ohonoch chi wedi darllen am ein swyddi Cymdeithion Creadigol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr; ac eraill wedi mwynhau The Beauty Parade a lwyfannwyd cyn y pandemig.

Three actors perform on stage
The Beauty Parade

Efallai eich bod chi wedi cofrestru i gymryd rhan yn ein cyrsiau Llais Creadigol, neu wedi darllen am yr arobryn Es & Flo; un o’r sioeau cyffrous newydd yr ydym yn bwriadu llwyfannu cyn gynted a gallwn ailagor.

Mae’r rhain yn rhoi rhagflas o’n huchelgais ar gyfer y sector yng Nghymru; nid yn unig o ran creu fwy o gynyrchiadau amrywiol ein hunain, ond i fentora, meithrin a darparu cyfleoedd ystyrlon i ddoniau Cymreig.

Bydd y grant yn ein helpu ni gefnogi datblygiad syniadau - o’r cychwyn cyntaf hyd at gynhyrchiad llawn.

Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i’r rheiny sydd wedi cyfrannu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - mae eu haelioni wedi’n cynnal ni drwy gyfnod heriol tu hwnt.

Mae’r grant newydd yma gan Sefydliad Garfield Weston yn dod â ni gam yn agosach at wireddu ein hamcanion. Mae’n ein galluogi ni i greu ystod eang a gwydn o waith y gallwn ei rannu gyda chynulleidfaoedd brwdfrydig unwaith y gallwn ailagor.

Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i Sefydliad Garfield Weston am eu haelioni, ac yn edrych ymlaen  yn fawr at fynd ati gyda’r gwaith.

Sian Morgan yw Pennaeth Datblygu a Phartneriaethau