Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

PECYN CYNNAL I’R CELFYDDYDAU

Mae’n newyddion archerchog i’r sector celfyddydau a threftadaeth bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cynnal £1.57biliwn, gyda £59m i’w fuddsoddi yng Nghymru.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn awyddus iawn i glywed manylion pellach am sut a phryd caiff y gronfa yma ei rhannu.

Yn ein hachos ni, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ein galluogi i greu mwy o’n gwaith ein hunain i ddangos doniau Cymru, i gario mlaen i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac i fuddsoddi mwy yng nghymuned llawrydd talentog y celfyddydau yng Nghymru.

Rhaid defnyddio’r cyllid yma i adeiladu sector celfyddydau radical, mwy cynhwysol, newydd, ac mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cymryd ei rhan o’r cyfrifoldeb yna o ddifrif calon. Unwaith y daw’r manylion i’r amlwg, mi fydd hwn ar flaen ein cynllunio strategol.

Yn y tymor byr, fodd bynnag, rydym yn atgoffa’n cefnogwyr i gyd na fydd y Ganolfan yn agor tan o leiaf mis Ionawr 2021 o achos pandemig y Coronafeirws.