Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pencil Breakers

Mae Pencil Breakers yn rhan o Ymyriadau Pwerus sy'n cynnwys darnau ysgrifen gwreiddiol gan leisiau cwiar, anabl ac actifyddion.

Yn ystod Gŵyl y Llais byddwn yn hongian pedwar poster wedi'u peintio â llaw yn yr adeilad. Mae pob poster yn cynnwys cod QR a fydd, unwaith i chi ei sganio, yn dod â chi i'r dudalen hon lle gallwch chi ddarllen neu wrando ar yr holl straeon isod. Straeon wedi'u darllen gan Mali Ann Rees.

Ann yr Arwr

I’r gad! Fi yw honna. Yr arwr heb math o super power, os nad wyt ti’n cyfri fy ego haearn Sbaen i sy’n stretchio o nhraed hir i hyd at dop fy ngwallt hurt i.
Fi angan costume.
Pinc falle. Ie, fi’n lico pinc cyn belled bod o ddim yn excuse gwan am binc, ti’n g’bo.
Teal, aqua, y lliw môr ‘na.
Fi angen symbol hefyd. Logo fydd pawb yn dod i nabod.
Cry’. Amazonian. Fi’n ca’l deud hwnna?
Shit, sai moyn bod yn politically incorrect superhero, ma’ ‘nna mor nineties. Fydd raid fi gwglo.
Paid a panico. Ti’m yn ca’l panico.
Paid byth gade’l iddyn nhw wbod bo’ ti’n panico.
Pwy sydd moyn gwisgo t-shirt o superhero sy’n panico?
Neb.
Fi angan bod y ferch fierce, hyderus, tal, chydig yn intimidating ‘na ma’ pawb yn meddwl wyt ti.
Fi rioed ‘di bod mewn ffeit. O’s otch?
Pam ma’ nhw’n meddwl ‘nna amdanai?
Surely ma’ nhw’n gallu gweld bod e ond yn costume i guddio’r ferch fach shei, pen ar ei ochr sy’n sibrwd ac yn casau gneud pethe’n rong a gade’l pobol lawr.
Y ferch o’dd yn ca’l ei rhoi o flaen teli Nain a Taid i adrodd cerdd y Sdeddfod nesa’.
Y ferch o’dd yn canu’n capel a ysgol ond o’dd bob, bob, bob tro yn colli’i llais achos bo hi’n cadw gormod o sdwff i lawr ac yn gneud yn siwr fod drws emosiynol ei gwddw hi wedi cau. Yn. Glep.

Fi’n mynd i achub y byd.
Fi’n mynd i ga’l ffôn, un ble ma’ pawb yn gwbod i ffonio am help.
Nai hedfan dros y byd yn achub pobol- o fuck, ydwi’n Saviour?
Ok, so falle nai hyfforddi pobol leol i amddiffyn ei hunan, boost-io skillset nhw a rhoi’r cyfleusterau a’r cyfleoedd iddyn nhw dyfu a…. ma’ ‘nna’n stori superhero shit, neith neb addoli ‘nna.
Dio’m yn ddigon super-hero-y.
Pam fishe pobol addoli fi?

Be’ fydd enw fi?
Ann yr Anhygoel?
Ann yr Anturiaethwr?
Ann yr Arwr?
Dyw Ann ddim yn enw sup-ero da iawn na?
Fi angan identity hollol newydd ond ‘dyw nna’m yn gneud sens achos yr holl reswm pam fi’n gneud hyn ydi achos bo fi’n teimlo bo’ fi fod i achub y byd fel go iawn. So pam faswn i’n esgus bod yn rhywun arall? A pam fuck fishe gwisgo pinc?
Hmmm.
Fi angan side-kick.

Coesau Jeli

Wnes i rioed ddysgu cropian
Na cerdded chwaith.
Yn lle, yn un a hanner,
Wnes i godi
A cychwyn rhedeg
Dau gam cyn disgyn
Yn fflat ar fy ngwyneb.

Welodd Mam e fel arwydd,
Fel falle y byddai’n tyfu
I fod yn athlete.
Lle, mewn gwirionedd
Roedd e’n arwydd fod gen i goesau wedi gwneud o jeli.

Ond wnaeth Mam dal anfon fi
I pob un clwb chwaraeon
I godi cywilydd ar fy hun drosodd a throsodd
Er bo’ fi prin yn medru sefyll
Heb sôn am reoli y corff car clown sydd gen i
Wedi ei lapio mewn croen sy’n torri ffwrdd
Fel papur tusw
Wedi ei addurno â chleisiau a phengliniau gwaedlyd
Bob un dydd.

Pan o’n i’n bedwar, wnaeth hi brynnu beic i mi
Ac o, o’n i’n caru fe.
O’dd e’n biws, yn glittery a shiny
A basgied ar gyfer tedis a snacs.
Roedd fy ngoesau jeli yn sefyll yn gryf fel carreg.

Gyda fy wmff newydd o annibyniaeth
I ffwrdd a fi
Yn teimlo’r gwynt yn chwythu drwy fy ngwallt
Fel o’n i’n hedfan.
Nes i mond mynd pum metr cyn
Disgyn yn fflat ar fy ngwyneb.

Gwyneb yn y mwd
Dagrau yn llifo lawr fy ngwyneb
Coesau jeli wedi toddi’n ddwr.
Wnaeth y doctors diagnos-o fi gyda
Chronic case o beic vs coesau jeli.

Boneddigion a boneddigesau, dewch yn llu
A paratowch i weld plentyn pedair mlwydd ar ddeg
Gyda stabilisers sydd dal yn llwyddo i
Ddisgyn yn fflat ar eu gwyneb,
Yn Gwglo “sut fuck wyt ti’n reido beic???!”
Oherwydd mae nhw wedi anghofio yr un peth
Mae pobol yn dweud nei di byth anghofio.

Anodd

“Anodd” wedes di?
Pam? Achos mod i’n gofyn cwestiwn anodd?
O, na- fi yw e, ie?
Ah, fi’n deall…ti’n ffeindo fi’n, wel….anodd!

Anodd pan fi’n gofyn i ti wrando yn lle egluro?
Anodd os fi’n gofyn i ti beido rhoi’r person ‘na lawr achos lliw eu croen nhw?
Ah, fi’n gweld…. Banter yw e!
Fi’n gweld… sdim byd anodd mewn banter, ca’l hwyl, cymyd y piss, jysd fi yw e!
Pam na allai adael fy ngwallt i lawr, ffitio mewn, peidio bod mor, blydi anodd?

Mi wnai sdopo fod yn anodd pan ti’n sdopo bod yn nawddoglyd, rhoi pobol lawr, rhoi dy anghenion di o flaen rhai nhw, pan ti’n edrych yn y drych ac yn cydnabod dy fraint.
Pan ti’n camu i’r ochr ac yn gadael i bobol erill sefyll yn y golau.

Hyd nes y diwrnod yna, mi wna i ganmol bod yn anodd. Mi wnai ddathlu.
Mi ddaliai o fyny i’r golau a byw gyfochor ag e.

Mi gariai mlaen i gwestiynnu a chreu anghyfforddusrwydd a dal ati i grafu haenau.
Achos tu ôl i fod yn anodd mae gwytnwch a chariad a’r pwer i newid.

Brawd a chwaer gwrthiant yw anodd.
Anodd yw peido cerdded i ffwrdd, peido gadael a chael y gallu i weld pethe hyd at y diwedd.

Am unwaith, gad i mi egluro.
Mae hi’n anodd dod o hyd i’r cwestiwn iawn, i ddarganfod ateb, i aros â meddyliau tywyll a gafael ym mhobol pan mae nhw’n brifo.

Mae hi’n anodd bod yn llawn ymdeimlad a gofal pan wyt ti wedi blino ar ddiwedd y dydd.
Mae hi’n anodd pan wyt ti moyn rhedeg i ffwrdd a chuddio, a darganfod ffordd mwy syml.

Felly be am i ti sdopo a meddwl, nid unwaith ond dwywaith ac ella deirgwaith deud gwir,
Y tro nesa wyt ti moyn fy ngalw i’n anodd.

Adref

Wnes i gael fy magu mewn ty pinc gyda 4 gardd fawr a dreif mor serth a’r Wyddfa, drws nesa i’r parc. Roedd ganddo ni 14 ystafell, neu beth oeddwn i yn hoffi credu oedd yn deyrnasau hudol i chwarae ynddyn nhw.

Yn esgus bod yn dylwythen deg, yn wrach neu fôr-forwyn, wastad yn achub rhywbeth neu’i gilydd. Mannau di-ddiwedd i guddio. Roedd ganddo ni hyd yn oedd siglen a trampoline.

Roeddwn i’n arfer eistedd yn fy nghwpwrdd yn breuddwydio mod i’n dylunio dillad, pob un gyda label “wedi eu gwneud gen fi”. Roeddwn i’n adeiladu y dens blancedi mwya’ cyfforddus a cozy yn y Rhondda. Roedd gen i oleuadau bach ar hyd fy ystafell, yn disgleirio fel pryfid tân.

Wrth dyfu fyny, wnaeth yr hud gychwyn diflannu. Rhedodd y goleuadau bach allan o fatris, disgynnodd y den blanced a’r cwpwrdd oedd fy ngofod i guddio rwan. Roedd e’n ddi-flas ac yn wag.

Yr unig adloniant oedd gweld fy chwaer bach i yn taflu spaghetti ar fy mam. Roedd holl fannau cuddio’r ty nawr yn le i ddod i osgoi’r holl sgrechien. Os oeddwn i’n gorwedd ar y llawr roeddwn i’n gallu clywed bob un gair oedden nhw’n poeri ar eu gilydd.

Roeddwn i’n gwrando fel spy, yn trio darganfod i ble’r aeth yr hud. Roedd o fel petai yna wrach gâs wedi dod mewn a bwrw swyn o dristwch. Fy anturiaethau mwyaf nawr oedd mynd fyny at y tô i ddychmygu gadael.

Roeddwn i’n teimlo fel Rapunzel, wedi fy ngharcharu mewn twr, yn gwylio amser yn symud hebddai. Roeddwn i’n pendronni am ble ‘sen i’n mynd a pha mor hir nes bod rhywun yn sylweddoli mod i wedi mynd?

Un tro, wnes i a fy chwaer ddod o hyd i gathod bach yn yr ardd a gwylio ar eu holau nhw heb ddweud wrth neb.

Doedden ni methu dod a nhw i mewn achos oedd Dad wedi dweud bod pob cath yn afiach ac angen eu boddi. Wnaeth o rioed ffeindo mas. Hwn oedd y gyfrinach mwyaf oeddwn i’n meddwl oedd gan fy nheulu. O’n i mor wrong.

Roedd yna genhedlaethau o gamdrin wedi eu guddio o dan ein gwynebau ni. Fy rhieni. Mam-gu a Tad-cu. Fy nghyn-neiniau a theidiau. Fy antis ac yncls. Darnau o’n calonau ni wedi eu gwasgaru ar hyd pob llwybr yng Nghymru.

Ysgwn i os mai tynged y patrwm yma yw i ail-adrodd? Ysgwn i os wnai byth deimlo’r hud yna eto? Ysgwn i os mai’r rheswn dwi ddim ishe plant yw achos mod i ofn eu torri nhw fel ges i fy nhorri. Yw fy nheulu i hefo’u gilydd achos y cenhedlaethau o gamdrin ynteu yw e achos ein gallu ni i ddod drosto a chario ‘mlaen?

Mae darganfod pethau mor erchyll am bobol wyt ti’n eu edmygu yn gwneud rhywbeth i dy hunan. Wrth feddwl am yr amseroedd ‘na nawr, fi ddim yn teimlo’n saff. Fi dal yn teimlo fel mod i’n cael fy hela gan y Wrach Gâs.

Ti’n dechre cwesitynnu popeth. Ma’r angen i reoli mor bwerus fel nad oes gen ti ddim rheolaeth. Mae dy ddychymyg di, a oedd unwaith yn creu teyrnasoedd bellach yn creu posibiliadau di-ddiwedd o gyfrinachau. Falle bod un ohonyn ni wedi ein mabwysiadu? Falle bod ganddo ni aelod cyfrinachol o’r teulu? Falle, falle, falle.

Tydi cael cartref ddim byd i wneud â chael tô uwch dy ben neu bwyd ar y bwrdd, mae o i wneud â teimlad o ddiogelwch a cymuned wyt ti’n ei adeiladu. Mae o am allu iachau pan mae rhywbeth wedi torri.

Teulu da ydi un sy’n gallu dy gynnal di a dy gadw di’n ddiogel. Ond mae e’n beth mor fregus. Mae e’n anodd fixo bond â phobol ti’n dibynnu arnyn nhw. Os mai’r person sydd wedi dy dorri di yw’r person sy’n dy gynnal di sut wyt ti’n prosesu hynny yn bellach na cheisio goroesi?

Pan wnes i ddarganfod popeth am fy nheulu wnaeth y teimlad ‘na o ddiogelwch a chymuned gracio. Diflannodd yr hud a oedd unwaith yn ein dilyn ni i bob man.

Roedd llwch hudol y tylwyth teg a oedd unwaith yn gorchuddio popeth bellach yn ddim ond llwch cyffredin. Yr un llwch a oedd yn cuddio bocsus ein cyfrinachau ni erstalwm.

Er mwyn prosesu beth sydd wedi digwydd mae’n rhaid i ni wybod popeth ddigwyddodd. Fi’n ceisio dysgu sut i greu y teulu hud sydd yn cynnwys y cyfrinachau.

Mae fixo fy nheulu fel y celf Siapaneaidd Kintsugi, ble mae darnau o grochenwaith wedi ei dorri yn cael ei roi nôl at eu gilydd drwy ychwanegu pethau hardd iddo fe gyda gliw, fel aur neu arian.

Dyw e ddim yn cuddio’r craciau ond yn dangos yr harddwch sy’n parhau yn rhywbeth er gwaethaf y craciau. Ein gallu ni i ddyfalbarhau yw ein hud. Ein aur ni sy’n clymu’r craciau.