Nid yw'r cyfle i berfformio ar un o lwyfannau mwyaf eiconig y byd yn codi'n aml... Mae llwyfan Theatr Donald Gordon yn aros amdanoch chi - dyma'ch cyfle!
Rydyn ni’n chwilio am grwpiau cymunedol ac ysgolion i ganu ar Ddydd Gŵyl Dewi ar lwyfan ein Theatr Donald Gordon adnabyddus er mwyn arddangos cymunedau bendigedig Cymru ar eu gorau.
Rydym yn rhaglennu prynhawn o berfformiadau er mwyn creu darlun o Gymru heddiw a phopeth mae ein gwlad brydferth yn ei gynrychioli.
SUT I YMGEISIO
Danfonwch fideo neu glip sain byr (dim mwy na munud o hyd) o’ch perfformiad trwy e-bost neu gan ddefnyddio gwefan rhannu ffeiliau am ddim megis WeTransfer neu Dropbox.
Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol mewn e-bost:
- Enw eich act
- Y nifer o berfformwyr sy’n cymryd rhan
- Hoffech chi gael gofod i fwyta’ch cinio?
- Hoffech chi ddefnyddio ein piano?
- A fyddwch chi’n dod â cherddoriaeth gefndirol?
- A fyddwch chi’n dod ag unrhyw offer gyda chi?
- Unrhyw wybodaeth ychwanegol gall fod yn ddefnyddiol
Rydyn ni'n disgwyl nifer fawr o geisiadau, felly os nad ydych chi’n cael eich dewis y tro yma, peidiwch â digalonni, mae yna ddigonedd o gyfleoedd i berfformio ar lwyfan Glanfa trwy gydol y flwyddyn.
*Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 February, 2020.