Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Picnic Cymunedol carnifal Trebiwt

Llwyddiant! Ar ddydd Sul 20 Medi, wedi misoedd o gynllunio, fe gafon ni ddathliad cymunedol o’r diwedd.

Cafodd y picnic ei gynllunio yn ystod y cyfnod clo gyda’n partneriaid hyfryd yng Nghymdeithas Gelfyddydau a Diwylliant Tre Biwt ac aelodau o’r gymuned sydd â diddordeb mewn gwneud a chreu gwisgoedd.

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cynllunio pob math o ddigwyddiadau carnifal – o wledd gymunedol The Lion King i lwybr a gorymdaith picnic carnifal, ond mae’r canllawiau cyfnewidiol wedi golygu y bu’n rhaid newid ein cynlluniau a gwthio ymlaen rhywsut.

Gemma Hicks
Gemma Hicks

Cafodd gwisgoedd a ffilmiau byr eu creu a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. Wrth i’r grŵp cymunedol barhau i greu a gwneud dan obeithio y caiff rhyw fath o ddigwyddiad ei gynnal.

Cynigwyd 20 Medi fel dyddiad posib, ac wrth lwc aeth popeth i’r dim. Doedd dim glaw, hyd yn oed!

Billy Ma

Roedd rhaid cynnal y picnic trwy wahoddiad yn unig ac roedd llawer o waith cynllunio i drefnu’r seddi ac i gadw pawb yn saff, mewn ‘swigod’, ar draws tri eisteddiad o 30 gwestai.

Gyda chefnogaeth Good Food Cardiff, darparodd ein cogyddion Geraldine and Ayaisha Griffth profiad bythgofiadwy o’r Caribî, gyda physgod halen, cyw iar ‘jerk’, reis, ffa, saladau phwdinau blasus dros ben.

Laura Bradshaw a'i merch Hannah

Gyda’r haul yn tywynnu, roeddwn yn medru arddangos peth o’r dalent lleol arbennig tu blaen i’n hadeilad eiconig.

Yn dechrau’r miri and 2.30 oedd y gwych Domestic Violins, wedi arwain gan ‘dihiryn’ carnifal Trebiwt - Mary-Anne Roberts - a ymddangosodd yn un o fideos Carnifal Trebiwt a grëwyd yn arbennig ar gyfer digwyddiad digidol eleni.

Domestic Violins

Dilynwyd gan set iwcalili acwstig hyfryd oddi wrth bartneriaeth mam a merch, Laura Bradshaw a'i merch Hannah, tra bod y grŵp lleol soul a reggae, Aleighcia Scott wedi goleuo'r llwyfan, gyda'i gig byw cyntaf mewn chwe mis ac yn hapus iawn i fod yn ôl yn perfformio o flaen a chynulleidfa fyw.

Aleigsha Scott
Aleigsha Scott

Cafwyd digon o ddawnsio egniol gan Nimba Dance a The Successors of the Mandingue a wnaeth i bawb wenu a chlapio gyda'u drymio ac acrobateg Gorllewin Affrica.

Nimba Dance a The Successors of the Mandingue

Parhaodd y dawnsio gyda Hive gan June Campbell Davies, gyda choreograffi dawns stryd anhygoel yn cynnwys Jukebox Collective a Shakeera Ahmun.

Jukebox Collective
Jukebox Collective

Fe wnaeth merch dalentog June, Ffion Campbell Davies hefyd ddarn unigol anhygoel yn nes ymlaen gyda'r nos.

June Campbell Davies

Nid oedd Côr Oasis yn gallu canu oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws ar berfformiadau ond ni wnaeth hynny eu hatal rhag dawnsio yn lle.

Côr Oasis

Perfformiodd Winds of Change ddarn dawns o garnifal eleni ac roedd rhai cymeriadau cyfarwydd yn crwydro o gwmpas gan gynnwys Billy Ma, Bean Friend a’r Blue Devils.

Winds of Change

Bu perfformiad gan gôr ieuenctid lleol Oasis ar y cyd gyda Cherdd Gymunedol Cymru oedd yn cynnwys unawd sacsoffon gwych.

CMW Project

Fe wnaeth canwr soul ac R&B, Lucas J Rowe roi gwên ar wynebau pawb ac ennill dros ddigon o gefnogwyr newydd gyda'i fywiogrwydd a'i egni ac rydyn ni'n eithaf sicr y byddwn ni'n clywed llawer mwy ohono yn y dyfodol.

 Lucas J Rowe
Lucas J Rowe

Yn gorffen y digwyddiad wrth i’r haul fachlud oedd trefnydd Carnifal Trebiwt, Keith Murrell a'i ffrindiau a gynhaliodd sioe cerddoriaeth enaid gwych i orffen y trafodion mewn steil.

Arwyddair y carnifal eleni oedd: Gadewch i ni ddod at ein gilydd a theimlo’n braf ac er bod y digwyddiad hwn wedi newid fformat dros y misoedd diwethaf, rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth a gynlluniwyd gan y gymuned, a’r hyn y gwnaethom gyflawni gyda’n gilydd tra ein bod yn yr adeg gloi.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gymerodd ran yn y grŵp cynllunio.

Hefyd, diolch enfawr i'n partneriaid yn Fareshare, Food Cardiff a Good Food Get Togethers am eu cefnogaeth o’r dechrau.