Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Yn gynharach eleni, lansiwyd ein rhaglen addysg Direction 2020 iBroadcast; cydweithrediad digidol rhyngom ni, cwmni technoleg addysg, Aspire2Be a’r darlledwr chwaraeon, Sean Holley.

YSBRYDOLI POBL IFANC

Rydyn ni bellach yn ein 15fed blwyddyn, a pha ffordd well sydd i ddathlu nag annog, cysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc o bob oedran i gymryd rhan yn y  gwaith rydyn ni’n ei wneud yma.

Roedd y rhaglen yn trochi’r disgyblion ym myd y Ganolfan trwy weithgareddau ffocws, archwilio mathau amrywiol o gyfryngau a swyddi technegol megis sgriptio, cyfarwyddo, ffilmio, addasu a chyfweld.

Yn ychwanegol i hyn, datblygodd y disgyblion sgiliau lythrennedd, rhifedd a cynhaliaeth allweddol.

CYFFRO A SGILIAU

Trwy’r rhaglen iBroadcast, roedd myfyrwyr ac athrawon yn gallu manteisio ar  gyfleoedd dysgu newydd a deunyddiau sy’n hybu sgiliau bywyd allweddol megis gwaith tîm a chydweithio.

Mae’r holl ffilmiau yn hybu gwaith ein tîm Dysgu Creadigol a’r cyfleoedd maen nhw’n eu darparu i bobl ifanc gymryd rhan gyda ni.

Edrychodd ddisgyblion Ysgol Gymunedol Porth ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ar waith ein gorsaf radio, Radio Platfform a’n darpariaethau cyfrwng Cymraeg.

Ffocysodd ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Cardiff West ar Rawffest, gŵyl gelfyddydol ieuenctid a chynhaliwyd yma yn Ebrill 2019.

Edrychodd Ganolfan Awtistiaeth Ysgol Uwchradd Llanishen ar ein côr, Sing Proud Cymru a’n Performance Platfform tra fu Ysgol Gymunedol Porth yn  ffocysu ar Yn Gryfach Ynghyd, sy’n cynnwys gweithdai, Hwb Artistiaid a digwyddiadau Hac Bywyd yn y Cymoedd.

Mae eu ffilmiau anhygoel yn cael eu harddangos yma mewn digwyddiad preifat ar 20 Tachwedd 2019.