Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Falch o Gefnogi Pride

Rydyn ni'n falch iawn i gefnogi Pride Cymru eto eleni, ac mae'n addo i fod yn benwythnos wefreddiol o haul a pherfformwyr anhygoel. Mae disgwyl i 50,000 o bobl lenwi strydoedd Caerdydd â lliw!

Gweler ddigwyddiadur llawn yr ŵyl yma.

Yn gartref i'r celfyddydau yma yng Nghymru; trwy ein staff, ein sioeau a'n ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd dathlu'r digwyddiad yma sy'n ymroddedig i amrywiaeth ac LGBT+ dros benwythnos Ŵyl y Banc.

O datblygu a chyd-weithio â Connie Orff ar ei sioeau  Perfformiadau i'r Chwilfrydig a nosweithiau drag y Clwb Swper i sioeau blaenorol megis Icons gan Le Gateau Chocolat, SeayoncéLes Ballets Trockadero de Monte Carlo neu blogio â Dr Bev Ballcrusher - rydyn ni'n ymroddedig i raglenni darnau amryiol sy'n dathlu pawb a phob un.

"We want WMC to be a space where LGBT+ artists, at any level of their career, feel welcomed and heard. From programming national work from queer artists like Milk Presents’ Bullish that puts the trans experience centre stage, to giving Iris the opportunity to present staged work by local LGBT+ artists for the first time - we understand the importance of having yourself and your experiences seen on stage."

Bron Davies, Assistant Producer

Felly, dathlwch pwy ydych chi go iawn gyda rhai o'r sioeau LGBT+  sydd ar y gorwel a cymerwch rhan yn Pride Cymru  trwy ddefnyddio hashnod #BalchOHyd.

Lord Hicks – Sod’s Law

Yn y romp gerddorol drwy hanes queer yma sydd wedi'i ddisgrifio fel “a wonderfully charming little show” gan Broadway Baby, mae'r seren cabaret Lord Hicks yn ail-gyfrif y cyfreithau, yr enwog a chysylltiadau sydd wedi siapio beth yw hi i fod yn hoyw o bersbectif dyn a chafodd ei fagu gyda llwy arian yn ei geg a'i haddysgu ar strydoedd Soho.

Krishna Istha – Beast

Yn y comedi stand-yp gan Krishna Istha, bydd cynulleidfaoedd yn cael mewnwelediad ffres a doniol i'r byd trawsrywiol. Wedi'i gyfarwyddo gan Zoe Coombs Marr a wnaeth ennill Sioe Gorau yng ngŵyl Gomedi Melbourne yn 2016, mae'r comedi llawn testosteron yma'n wahanol i'r hyn yr oedden ni'n disgwyl.....

Connie Orff: A Christmas Con

Mae'r anhygoel Connie Orff yn ôl dros y Nadoliag i helpu chi fynd LA LA LA nes bod eich bol yn brifo! Mae'r Frenhines Drag yn barod i gamu i'r llwyfan, y cwestiwn yw, ydych chi'n barod i gael eich adlonni?

Priscilla Queen of the Desert

Yn cynnwys trac sain llawn o glasuron y ddawns-lawr, mae'r sioe gerdd eiconeg yma'n stori twymgalon am hunanddarhanfod, sass a derbyn - y sioe berffaith i ddathlu Pride. Gyda mwy o glityr nag erioed or blaen, bydd y brenhinesau drag yma'n anorchfygol!

Everybody’s Talking About Jamie

Mae Jamie New yn 16 ac mae e'n mynd i fod yn seren. Trwy'r sioe gerdd ddoniol, bywiog, hynod boblogaidd yma, mae Jamie yn tywys y gynulleidfa ar stori am beth y mae'n meddwl i fod yn wahanol, a beth ye brenhinesau drag? Byddwch yn greadigol a sefwch yn yr olau wrth i chi ddisgleirio mewn beth sydd yn eich gwenud chi'n chi.

"As a queer programmer and producer, myself, it makes me proud to know that sharing diverse work is a priority for our team, and that we all understand that the most interesting stories often come from those who don’t always have the space to share them."

Bron Davies