Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Prynwch docyn ar gyfer dad

Mae dad yn haeddu’r gorau ar Sul y Tadau eleni (16 Mehefin). Felly anghofiwch am y sanau, y llyfrau a’r CDs. Mae gennym ni rywbeth llawer mwy cyffrous i’w gynnig…

Rhyddhau elfen y seren roc sydd ynddo

Ewch â’ch tad yn ôl mewn amser i ddyddiau da Queen, un o’r bandiau roc gorau yn y byd, a’r sioe gerdd roc wych honno, We Will Rock You.

Gydag amrywiaeth o anthemau roc yn cynnwys I Want to Break Free, Don’t Stop Me Now, Somebody to Love, Bohemian Rhapsody, We Will Rock You a rhagor … yr unig beth fydd ar eich tad ei angen fydd trowser spandex a llond pen o wallt.

Profwch hunllefau cegin Basil

Mae pob tad wedi cael rhyw foment Basil Fawlty ar ryw adeg yn eu bywydau, ac efallai taw ein Profiad Ciniawa Faulty Towers yw’r union beth i wneud iddo chwerthin lond ei fol.

Mae Basil, Sybil a Manuel yn ôl i roi noson i’w chofio i chi a’ch tad – yn llawn o adloniant gwych, bwyd blasus a chomedi heb ei hail. Beth yn y byd allai fynd o’i le?

Nid Crosby yw e, na Stills, ond Nash!

Os yw eich tad yn hoff o gerddoriaeth, beth am ei dretio i noson mas yng nghwmni Graham Nash, brenin y byd gwerin-roc. 

Mae’r cerddor diguro (rhan o’r grŵp gwreiddiol Crosby, Stills a Nash), ac enillydd gwobr Grammy, a gafodd lwyddiant byd-eang gyda’r caneuon Marrakesh Express ac Our House, yma am un noson yn unig i rannu caneuon a straeon anhygoel mewn gìg agos-atoch.

Teimlo’n llawn antur gyda Fiennes

Os taw antur sy’n apelio at eich tad, does dim angen i chi edrych ymhellach. Ry’n ni wedi llwyddo i drefnu ymweliad gan yr anturiaethwr anhygoel hwnnw, Ranulph Fiennes, i’n tywys drwy ei daith bersonol mewn modd ysgafn a theimladwy.

Mae 'Living Dangerously' yn cynnwys argraffiadau Ranulph am ei blentyndod cynnar, helyntion dyddiau ysgol, anturiaethau yn y fyddin, ei deithiau cyffrous, a’i sialens gyfredol – y Global Reach Challenge – a’r cyfan yn rhoi cipolwg ar ei fywyd anhygoel fel anturiaethwr heb ei ail.