Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pump peth gwych i wneud dros y Pasg.

Prin o syniadau’r Pasg yma? Mae gennym lond berfa o bethau hwyl yn digwydd y mis yma. Dyma’n pump uchaf...

1. Helfa wyau pasg

21 Ebrill 2019

Ymunwch â ni ar Sul y Pasg wrth inni chwilio’r cilfachau a’r cuddleoedd am siocled. Bydd pob helfa’n para 30 munud ac yn costio £5 fesul person. Bydd yr helfeydd yn cychwyn am 10am, 10:30am, 11:00am, 12:30pm ac 1:30pm.

2. The Hidden Garden

15 - 20 Ebrill 2019

Amser da i dafoli bywyd yw mis Ebrill. Os oes straen arnoch, beth am ddod i’n gardd o lonyddwch? Cofnodwch eich dymuniadau at y dyfodol, rhowch nhw ar y goeden a darllenwch beth sydd ar feddwl pobl eraill. Mae hefyd gennym ioga am ddim i deuluoedd o 2pm ar ddydd Mawrth, Mercher a Gwener.

3. Easter Oratorio

18 Ebrill 2019

Bydd dau arweinydd yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, gyda Jonathon Heyward yn arwain Agorawd Gŵyl y Pasg Rimsky-Korsakov, Pum Cân Gyfriniol Vaughan Williams a Blithe Bells Grainger, tra bydd Jonathan Cohen yn arwain Offeren y Pasg J.S Bach gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

4. You've Got Dragons

16 - 20 Ebrill 2019

Y Pasg hwn, tretiwch y plant i’r sioe deuluol hynod weledol hon gyda digonedd o gerddoriaeth fyw a hiwmor. Dyma gynhyrchiad sy’n archwilio’r gofidion mewnol cudd (dreigiau) rydym oll yn eu hwynebu.

5.  If you don't Noel me by now

19 Ebrill 2019

Ymunwch â Noel Sullivan (enwog fel aelod o Hear’say) a’r pianydd a’r cyfarwyddwr cerddorol Nick Barstow yn y sioe agos-atoch yma sy’n archwilio’r gerddoriaeth a wnaeth ysbrydoli Nick ar ei daith tuag at fod yn seren ym myd sioeau cerdd. Gallwch ddisgwyl digonedd o ganeuon gwych a chwerthin.