Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pŵer cerddoriaeth

O Judy Garland i'r Scissor Sisters, cafodd cerddoriaeth effaith fawr ar daith Luke Hereford drwy ei blentyndod cwiar. Dyma fe'n ystyried y dylanwadau cerddorol ar ein cyd-gynhyrchiad nesaf Grandmother’s Closet (and What I Found There…)

Mae cerddoriaeth wedi bod yn ganolog i fy ngwaith erioed, a dydy Grandmother’s Closet (and What I Found There…) ddim yn eithriad. Mae cysylltiad hynod bersonol â cherddoriaeth wedi bod gen i erioed, a thrwy’r broses o sgwennu’r ddrama roedd modd i fi fyfyrio ymhellach ar beth mae’n ei olygu i fi fel artist cwiar.

Mae cerddoriaeth wedi bodoli fel arf i fi gael dianc ers y galla i gofio. Fydden i erioed wedi ffeindio’r ffordd i gwpwrdd dillad fy mam-gu heb glywed alaw fythol The Trolley Song yn gyntaf.

Judy Garland yn Meet Me In St. Louis

Byddai fy mhartïon dawns personol yn naw oed yn ystafell fyw Nan wedi bod yn ddiflas iawn heb Kate Bush yn drac sain. Ac efallai y byddwn i’n dal i chwilio am amlygiad corfforol o lawenydd cwiar oni bai am berfformiad eiconig y Scissor Sisters yng Ngwobrau’r Brits yn 2005. Oherwydd grym cerddoriaeth, rydw i bob amser wedi gallu dianc i fydoedd llawn cantorion ensemble dawnus mewn hetiau mawr, olwynion tro perffaith, pypedau adar enfawr, a phopeth yn y canol.

Kate Bush

I ddechrau, y bwriad oedd ysgrifennu hon fel drama gyda chaneuon wrth wraidd y dull o adrodd y stori, ac er mwyn gwneud hyn roedd yn rhaid i fi edrych o ddifri ar beth mae cerddoriaeth wedi’i wneud i fi’n bersonol. Buan y sylweddolais i fod dianc yn rhan mor bwysig o dyfu i fyny’n cwiar. Nid diddanu’ch hunan yn unig yw e, mae’n ymwneud â bodoli mewn byd — os am eiliad yn unig — sy’n teimlo’n hollol ddiogel. Rhywle lle does dim llygaid yn beirniadu, lle mae bachgen deg oed sydd wrth ei fodd â ffrils a secwinau nid yn unig yn rhywbeth normal, ond yn rhan o wead bywyd.

Madonna

Parhaodd y dianc yma drwy gerddoriaeth i mewn i fy arddegau, a hynny fwy fyth o bosib yn ystod y daith anodd o ddod allan fel rhywun cwiar. Pan o’n i’n teimlo fel nad oedd neb yn y byd go iawn yn deall pwy o’n i, neu fy mod am gael fy ngharu am fod yn fi fy hunan go iawn, gallwn i roi fy nghlustffonau i mewn a chael fy lleddfu gan biano tyner Tori Amos, cyd-sgrechian yn yddfol gyda Björk, neu moshio i bryder di-baid Alanis Morissette. Roedd y cyfan yn angenrheidiol, a rhoddon nhw sicrwydd i fi fod popeth yn mynd i fod yn iawn.

Alanis Morrisette

Wrth i fi gerfio llwybr y ddrama, daeth yn amlwg iawn fod rhyw fath o daith ffurfiannol, bersonol a cherddorol yn bodoli i fi, ac na fyddai’r daith ddim ond yn dyrchafu hwn fel darn o waith sy’n adrodd stori. Roedd dod o hyd i’r caneuon cywir i adlewyrchu adegau penodol fy mhrofiad yn dod i oed weithiau’n teimlo fel crefftio albwm cysyniad. Mae’r gerddoriaeth yn y ddrama yma weithiau’n ddathliadol, ac ar adegau eraill mae’n anodd ac yn heriol — yn debyg iawn i fy llwybr yn tyfu i fyny’n cwiar.

Barbra Streisand

Gan weithio’n agos gyda David George Harrington (a drefnodd y gerddoriaeth mor feistrolgar) rydyn ni wedi creu byd o sain sy’n adlewyrchu hyn drwy ail-ddychmygu a chymysgu caneuon pop o’r pedwardegau a’r pumdegau, yr holl ffordd i’r wythdegau a’r nawdegau.

O hyn, rydyn ni wedi ail-ddychmygu’r campweithiau eiconig yma, wedi cyfuno’r alawon, ychwanegu lleisiau cefndir, ac elfen biano mewn arddull cabare i ategu’r trefniannau gwreiddiol a hyd yn oed wedi darganfod onglau naratif newydd i bob cân. Mae wedi bod yn gymaint o hwyl dod â phob pennod gerddorol yn fyw gydag afiaith cwiar anhygoel.

David George Harrington

Dros y degawdau, mae llawer o bobl gwiar wedi canfod cysur yn yr un artistiaid. Mae mor ddiddorol i fi fy mod i, ar ddiwedd y nawdegau, yn cael cymaint o gysur personol yn nisgograffeg Judy Garland ag efallai y byddai plentyn yn y chwedegau wedi’i gael. Mae cymaint o bobl gwiar wedi’u cysylltu ar draws cenedlaethau drwy artistiaid sydd wedi cynnig cysur, mewnwelediad ac amddiffyniad i gymaint ohonon ni, a gobeithio bod hyn yn golygu y bydd palet cerddorol y sioe yma’n cael ei werthfawrogi gan gynulleidfa eang.

Luke Hereford

Mae Grandmother's Closet (And What I Found There...) yn rhedeg o 20 – 23 Ebrill. Archebwch docynnau.