Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Molly Palmer

Radio Plattform yn y Porth

Bydd llawer ohonoch eisoes wedi clywed am ein gorsaf radio, Radio Platfform yn ein hadeilad yng Nghaerdydd. Ond oeddech chi'n gwybod bod gennym hefyd orsaf radio ffyniannus yn y Porth yng nghwm Rhondda?

Lansiwyd ein chwaer orsaf yn 2019 ac mae wedi'i lleoli yn y ffatri yn y Porth. Daeth i'r amlwg drwy Yn Gryfach Ynghyd, partneriaeth y Ganolfan â Valleys Kids a grëwyd i sicrhau bod ein gwaith yn hygyrch i bobl ifanc sy'n byw y tu allan i Gaerdydd.

Ers i ni lansio, nid yw gorsaf y Porth wedi cael llawer o sylw oherwydd pandemig y Coronafeirws a oedd yn llesteirio ein cynnydd yn ddifrifol.

Ym mis Gorffennaf 2021, fe'm penodwyd yn Gydlynydd yr Orsaf yn y Porth i sefydlu'r orsaf yn yr un modd ag y mae ein stiwdio yng Nghaerdydd wedi perfformio.

Ochr yn ochr â'm cydweithiwr gwych, y gweithiwr celfyddydau ieuenctid Tom Stupple, rydym wedi bod yn brysur yn ail-agor ers mis Awst 2021, gan ddechrau gyda diwrnod agored a gweithdai digidol a radio am ddim i'r holl bobl ifanc wych a ymunodd â ni.

Gwnaethom hefyd greu perthynas wych gyda Bryn Celynnog, ysgol leol a estynnodd atom am gymorth pan gawsant arian i ddechrau eu gorsaf radio eu hunain.

Buom yn ymweld â'r ysgol unwaith yr wythnos am wyth wythnos yn cynnal gweithdai ac yn dysgu'r myfyrwyr sut i redeg gorsaf radio. Byddwn yn parhau i gynnal sesiynau galw heibio gyda'r myfyrwyr ac ni allwn aros i weld eu gorsaf radio ar waith eleni.

Ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd Tom a minnau ein cwrs hyfforddiant radio achrededig 'wyneb yn wyneb' cyntaf ers dechrau'r pandemig.

Roedd yn anhygoel gweld faint o bobl a roddodd y gorau i'w penwythnos i ddod i ddysgu gyda ni ac mae pawb a fynychodd bellach yn aelodau rheolaidd o'n gorsaf y Porth. Maen nhw wedi mynd ymlaen i greu eu sioeau radio eu hunain i safon anhygoel, ac rydyn ni'n gyffrous i weld sut mae pawb yn datblygu dros y 12 mis nesaf.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae gennym ni gynlluniau mawr. Rydym yn gobeithio adnewyddu ein hystafell radio a'i throi'n fan ymlacio lle gall pobl ifanc ddod i gymdeithasu gyda'u ffrindiau, cynllunio eu sioeau radio, a'i ddefnyddio sut bynnag y dymunant. Mae pobl ifanc yn ganolog i'r prosiect hwn a'u gofod nhw yw hyn!

Rydym hefyd yn uwchraddio ein systemau radio i fersiwn mwy newydd sy'n golygu y byddwn yn gallu darlledu'n fyw o'r Porth am y tro cyntaf erioed cyn bo hir.

Mae ein cwrs hyfforddi nesaf yn dechrau tua diwedd mis Mawrth, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru eich hun neu ar gyfer rhywun arall, anfonwch e-bost ataf yn molly.palmer@wmc.org.uk.

Mae Tom a minnau'n hynod falch o'r gwaith rydym wedi'i gyflawni dros y chwe mis diwethaf ac mae dyfodol ein gorsaf yn y Porth yn edrych yn ddisglair iawn.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i Tom Stupple, Alan Humphreys, Guy Evans, Jason Camilleri, a'n ffrindiau yn Sparc am bopeth maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud - ac wrth gwrs yr holl bobl ifanc sy'n rhan o'r orsaf.

Molly Palmer - Cydlynydd Gorsaf Radio Platfform, Y Porth

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.