Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Perfformiadau Ymlaciedig

Mae ein perfformiadau ymlaciedig wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd mynd i’r theatr, yn cynnwys rhai sydd â chyflwr sbectrwm awtistiaeth, anabledd dysgu, neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu.

Rydyn ni'n gwneud nifer o addasiadau synhwyraidd megis lefelau sŵn is, goleuadau fwy llachar ac awyrgylch llai ffurfiol lle y bydd pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd i ymateb i’r sioe fel y dymunant.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi creu ffilm sy'n dangos i chi beth sy'n digwydd yn un o'n perfformiadau ymlaciedig. Dyma berfformiad ymlaciedig o Madagasgar The Musical a ddigwyddodd 8 Awst 2019.

Mae yna nifer o berfformiadau ymlaciedig ar y gorwel a gallwch gofrestru nawr i ddarganfod mwy am The Lion King yn 2020.