Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
David a Philippa Seligman

Cofio David Seligman

Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth David Seligman OBE FRWCMD.

Cefnogodd David a'i ddiweddar wraig Philippa Ganolfan Mileniwm Cymru o ddechrau ein taith, a rhannodd angerdd mawr dros y celfyddydau a chefnogi talent ifanc yng Nghymru.

Roedd David yn ddyngarwr brwd ac yn cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru am dros bedwar degawd. Roedd ganddo angerdd arbennig dros feithrin creadigrwydd ymhlith pobl ifanc ac ehangu eu mynediad i'r celfyddydau, ac roedd yn ymwneud â llawer o sefydliadau celfyddydol yng Nghaerdydd i helpu cyflawni hyn - gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru.

Drwy ei rodd ddiweddaraf, cefnogodd David sefydliad ein gorsaf radio a'n rhaglen hyfforddi dan arweiniad ieuenctid, Radio Platfform, sy'n parhau i feithrin hyder, cynnig llwyfan ar gyfer mynegiant, ac adeiladu sgiliau ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant pellach i bobl ifanc 16-25 oed.

Roedd David yn aelod o’n Cylch y Cadeirydd; grŵp o unigolion o'r un anian sy'n rhannu angerdd dros y celfyddydau a chred ym mhwysigrwydd ein gwaith fel canolfan y celfyddydau cenedlaethol, ac sy'n chwarae rhan annatod wrth ariannu ein prosiectau a'n cynyrchiadau. Mae’r math hwn o ddyngarwch yn newid bywydau.

Roedd hefyd yn allweddol wrth helpu sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru fel canolfan celfyddydau perfformio blaenllaw ar ddechrau ein taith, gan gyfrannu cymorth cyfreithiol, eiriolaeth a chyllid yn ystod y cyfnod cychwyn.

Mewn gohebiaeth ddiweddar â David, rhannodd pa mor falch oedd clywed am ein hail-agor ac roedd yn edrych ymlaen at weld y newidiadau i'r ystafell a enwyd ganddo yn ôl yn 2005, wrth i ni ei thrawsnewid yn ofod i bobl ifanc ddatblygu eu creadigrwydd a'u sgiliau. Rydym yn falch iawn bod etifeddiaeth David yn parhau drwy Ystafell Seligman.

Rydym yn hynod ddiolchgar i David am ei gefnogaeth dros y blynyddoedd ac rydym yn falch iawn o fod wedi ei adnabod. Mae ein meddyliau gydag anwyliaid David ar yr adeg drist hon.