Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rôl newydd - Cydymaith Datblygu Artistiaid

Dros y tair blynedd ddiwethaf rydym ni wedi datblygu ein harlwy gynhyrchu, drwy gefnogi a chydweithio ag artistiaid Cymreig, a drwy raglennu, datblygu, creu a chyflwyno gwaith newydd sy’n galluogi’r artistiaid hynny i arddangos eu crefft.

Mae gennym ni uchelgais i gynyddu’r gwaith hwn, ac i gyrraedd mwy o artistiaid, a dyna pam ein bod ni’n cyhoeddi rôl newydd yn y Ganolfan, sef cydymaith datblygu artistiaid.

Gan ein bod yn cynhyrchu fwy o gyd-gynyrchiadau o un flwyddyn i’r llall, mae angen i ni greu strategaeth ar gyfer ein gwaith datblygu artistiaid. Mae’n ffordd i ni sicrhau ein bod yn gweithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid sy’n cynrychioli Cymru a’i storiâu.

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn sy’n gallu ein helpu ni i ddarganfod a datblygu artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli ar ein llwyfannau ac sydd â’r uchelgais o fod yn Gyfarwyddwr Artistig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio rhan o’r amser yn gweithio yn y Ganolfan a rhan o’r amser yn cwblhau hyfforddiant achrededig mewn Rheoli’r Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae gennym ni gyfres o ddiwrnodau agored ar y gorwel – dyma gyfleoedd anffurfiol i sgwrsio, i ganfod mwy o wybodaeth am y rôl, derbyn cyngor am ein proses recriwtio. Galwch heibio am baned.

Rydyn ni’n deall bod y dyddiadau hyn yn ystod gwyliau haf yr ysgol, felly mae croeso i chi ddod â’ch plant gyda chi.

Os hoffech chi fynychu unrhyw un o’r diwrnodau agored, gofynnwn yn garedig i chi e-bostio artists@wmc.org.uk a rhoi gwybod os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd.

29 Gorffennaf 2019 - Ganolfan Gymunedol Trebiwt, Caerdydd - 12pm tan 4pm

30 Gorffennaf 2019 - Tŷ Pawb, Wrecsam - 10am tan 3pm

2 Awst 2019 - Ffwrnes, Llanelli - 10am tan 3pm

* Dyddiad cau: dydd Merched 7 Awst 2019.  

Mae’r rôl newydd yma wedi bod yn bosib drwy gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.