Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni'n ôl! Taniwch eich dychymyg gyda'n rhaglen ar gyfer 2021

Mae'n theatr wedi bod yn dywyll ers dros flwyddyn, a'n cyntedd yn dawel... felly rydyn ni'n hynod gyffrous i'ch gwahodd chi'n ôl dros yr haf! Rydyn ni wedi gweld eisiau pawb…

Ymunwch â ni ym mis Gorffennaf ar gyfer Eich Llais, arddangosfa gelf wedi'i chreu o weithiau celf gan ein cymuned leol a'n cymuned genedlaethol yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn paratoi am barti go iawn gyda'n tymor cabaret a chofiwch alw heibio am beint a thaco yn Teras, ein lleoliad bwyd stryd newydd.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio ar ein cynhyrchiad ein hunain o Lyfr yr Wythnos BBC Radio 4 - The Boy With Two Hearts, stori anhygoel teulu'n ffoi o'r Taliban.

Bydd ein Theatr Donald Gordon ysblennydd yn barod i'ch croesawu chi'n ôl yn yr hydref, gyda sioeau hynod boblogaidd megis The Book of Mormon a Disney’s Beauty and the Beast yn ogystal â gwledd o berfformiadau gan dîm Gŵyl y Llais.

Mynnwch docyn

Eich Llais: Arddangosfa: Eich ymateb artistig chi i'r flwyddyn hanesyddol ddiwethaf, drwy baentiadau, ffotograffiaeth, ffilm, cerfluniau, perfformiadau, animeiddio a gwaith sain. Casglwyd y gwaith o bob cwr o Gymru a gan artistiaid o bob oed. Peidiwch â cholli'r arddangosfa arbennig yma sy'n edrych yn obeithiol i'r dyfodol. Yn cychwyn 19 Gorffennaf.

Dewch i'r Cabaret: Drag, bingo, bwrlésg, dawnsfa, theatr gerdd, comedi a hyd yn oed 'raves' ar gyfer y plantos. Ymunwch yn y bwrlwm o 15 Gorffennaf ymlaen.

Dolly Trolley

The Boy with Two Hearts: Mae teulu sy'n ffoi oddi wrth y Taliban yn ceisio gofal meddygol brys yn y DU ar gyfer eu mab hynaf. Dyma stori wir sy'n dangos y dewrder a'r ddynoliaeth sydd y tu cefn i stori bob ffoadur. Llythyr cariad i'r GIG. Rydyn ni wrth ein boddau'n ailagor ein Stiwdio Weston gyda'n cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru cyntaf ers i'n drysau gau 1 Mawrth 2020. Yn cychwyn 2 Hydref.

The Boy With Two Hearts

Teras: Bwyd stryd blasus? Tic. Diodydd hyfryd? Tic. Ymbinciwch, dewch â'ch ffrindiau ynghyd a dewch draw am ginio, swper, neu'r ddau.

Cwpl yn bwyta bwyd stryd

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Diolch i chi. Dewch i'n gweld ni'n fuan.