Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Seiniau dros Newid

Ers lansio Lleisiau dros Newid, mae amrywiaeth enfawr o waith wedi cael ei anfon aton ni - o baentiadau i ffotograffiaeth, o farddoniaeth i ffilm, ond mae cerddoriaeth wedi bod yn gyfrwng mynegiant poblogaidd a phwerus.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi derbyn straeon a cherddoriaeth hynod ysbrydoledig, ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n eich ysbrydoli chi i greu rhywbeth.

Mae Lleisiau Dros Newid yn ymwneud â'r dyfodol felly beth bynnag rydych chi'n delio ag ef nawr, rydyn ni eisiau gwybod am eich gobeithion a'ch breuddwydion am fywyd ar yr ochr arall.

Aeth Jude Thoburn-Price ati i wneud cywaith gyda rhai o'i ffrindiau o'r enw Lockdown: Inner Thoughts fel rhan o'i blwyddyn olaf yn gwneud gradd mewn Cerddoriaeth Electronig.

"Cafodd y seinwedd ei greu fel capsiwl amser o'r cyfnod presennol rydyn ni'n ei brofi, oherwydd COVID19. Dychmygwch eich bod chi'n mynd am dro yn ystod y cyfnod clo, ac yn edrych i mewn i'r tai wrth i chi fynd heibio, ac yn digwydd clywed y myfyrdodau ym mhen rhywun, a'r synau sydd o'u cwmpas."

Jude Thoburn-Price

Mae'r cywaith yma'n cynnwys cyfraniadau gan: Naomi Bells, Louise James, Francesca Murphy, Amelia Thomas, Roxie Webb, Becky Cee a Jude Thoburn-Price sydd i gyd yn aelodau o Ladies of Rage, casgliad cerddorol o ferched o Gaerdydd.

Cydweithiodd Gareth Evans gyda'i ffrindiau ar ddarn o'r enw Collab-19 by Undersound and Friends, ac erbyn hyn maen nhw'n ei ddefnyddio i godi arian i'r elusen iechyd meddwl, Mind

Ar noson gyntaf y cyfnod clo, gofynnodd Gareth i'w ffrindiau recordio'u hunain yn canu llinell fyrfyfyr gyda'u ffonau a'i hanfon ato, er mwyn creu cywaith cerddorol mawr.

"Ychydig o hwyl oedd e ar y dechrau, ond erbyn hyn mae e wedi troi'n rhywbeth llawer mwy ystyrlon."

Gareth Evans

Syniad syml am brosiect i gynnwys llawer o ffrindiau oedd hwn i ddechrau – rhywbeth i lenwi'r amser a chadw'i feddwl yn brysur – ond cafodd ei syfrdanu gan yr ymateb, a chyn pen dim roedd y trac yn datblygu ar ei ben ei hun

Mae'r darn cerddorol olaf y byddwn ni'n ei gynnwys wythnos yma'n dod gan Coppercaillie - band gwerin / indi o Abertawe sydd wedi ysgrifennu dau ddarn hyfryd o'r enw Gaia a Refugee am eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Dyma eu trac, Gaia, sy'n teimlo'n hynod o briodol ar hyn o bryd.

Bydden ni'n falch iawn o gael clywed mwy am eich barn a'ch teimladau chi am y dyfodol, felly cyfrannwch ddarn o gelf a fydd yn llenwi'n gofodau cyhoeddus yma pan fyddwn ni'n ail-agor. I gael rhagor o wybodaeth, i drafod neu i anfon rhywbeth, anfonwch e-bost at Gemma drwy: community@wmc.org.uk