Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Hemes has dark curly hair and she is looking at the camera

Sesiynau Sul ym mis Mai

Y mis hwn yn Sesiynau Sul, bydd tair act leol wych yn perfformio.

Dewch i ddarganfod eich hoff actiau newydd drwy brynhawn ymlaciedig llawn cerddoriaeth o bob genre, gan ddechrau am 2pm, 22 Mai 2022 yn Radio Platfform.

Yn creu'ch cerddoriaeth eich hun? Bydd gennym sesiwn meic agored am 4pm ar ôl i'r artistiaid a drefnwyd berfformio.

Os hoffech fod yn rhan o'r sesiwn meic agored, anfonwch e-bost at community@wmc.org.uk i gofrestru, a dewch â USB (gyda thrac offerynnol) neu unrhyw offerynnau acwstig y byddwch eu hangen ar gyfer eich perfformiad.

Bydd ein Sesiwn Sul nesaf yn cynnwys perfformiadau gan y tair act yma:

Mae Hemes yn gantores ac yn ysgrifennydd caneuon o De Cymru a ryddhaodd ei EP cyntaf 'Matters of the Mind' yn ddiweddar.

Mae Charlie J yn gynhyrchydd cerddoriaeth, rapiwr ac ysgrifennydd caneuon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi byw ledled y byd ac mae ei brofiadau wedi helpu i'w siapio fel artist.

Mae Aisha Kigs yn gantores, ysgrifennydd caneuon, rapiwr a pherfformiwr na ellir cynnwys eu hegni gyda dylanwadau gan gynnwys R&B, Neo Soul a Hip Hop.