Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Chwe rheswm dros wirfoddoli yma

Fel Morgan, sy’n 17 mlwydd oed, mae Ian a Jane yn rhan o’n tîm o wirfoddolwyr Aelodaeth ac Ymgysylltu. Dyma nhw’n trafod pam eu bod nhw’ mwynhau gymaint…

1. MAE GWIRFODDOLI’N HYBLYG IAWN

Jane: "Dwi wastad wedi bod wrth fy modd gyda’r Ganolfan; mae’n adeilad diddorol sy’n llawn angerdd a chreadigrwydd.

Mae gwirfoddoli gyda’r adran Aelodaeth ac Ymgysylltu yn gyfleus i mi oherwydd dydw i ddim yn gallu cerdded yn bell iawn, felly mae eistedd wrth y ddesg Aelodaeth yn berffaith."

2. MAE MODD I CHI WNEUD CYFRANIAD GO IAWN

Ian: "Un o’r pethau  ro’n i’n ei  golli fwyaf pan ‘’nes i ymddeol oedd bod yn rhan o dîm. Dwi wrth fy modd yn gwneud cyfraniad ac yn cael fy cael fy ngwerthfawrogi am y cyfraniad hwnnw, felly dwi’n cael llawer o foddhad  wrth wirfoddoli."

Jane: "Mae’n braf iawn cael cyfle i siarad am y lle anhygoel yma gyda phobl; dwi’n teimlo fy mod i’n  fwy hyderus, ac yn rhan o’r gymuned, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn rhannu fy ngwybodaeth yn ogystal â dysgu pethau newydd."

Ian

3. Byddwch yn codi arian ar gyfer achos gwych

Ian: "Mae’r arian sy’n cael ei godi  gan ein haelodau’n ein galluogi ni i ddod â chreadigrwydd a’r celfyddydau perfformio i bobl sydd efallai heb gael y cyfle tan nawr.. Mae hyn yn hynod bwysig, yn enwedig i bobl ifanc."

Asha

4. BYDDWCH YN GWNEUD GWAHANIAETH I FYWYDAU POBL

Jane: "Drwy ymgysylltu â phobl, mae cyfle gan wirfoddolwyr i gyfoethogi profiad pobl o fynychu’r theatr.

Efallai mai hwn fydd eu hymweliad cyntaf, neu efallai  y byddan nhw’n cael amser mor wych nes  eu hannog i ymaelodi a chael y buddion ychwanegol – cynigion  ar docynnau, digwyddiadau arbennig, y seddi gorau, ayyb."

5. BYDDWCH YN CYFARFOD BOBL O BOB CEFNDIR

Ian: "Dwi wrth fy modd gyda’r awyrgylch yma; does ond angen i chi gerdded i mewn i’r adeilad anhygoel  hwn, a chewch eich cyfareddu gan gyffro’r lle.

Dwi’n mwynhau dod i nabod pobl; siarad gyda nhw, a gobeithio y bydd modd i mi gynyddu’r nifer o aelodau sydd gennym ni –er mwyn cefnogi’r theatr, helpu i gefnogi’n gwaith estyn allan, a thanio dychymyg y genhedlaeth nesaf."

6. MAE’N DIPYN O SBORT

Jane: "Ewch amdani! Mae’n brofiad gwych; mae’n hyblyg  ac fe gewch chi lawer iawn o hwyl."

Ewch i’r adran Gwirfoddoli ar ein gwefan, er mwyn cael gwybodaeth bellach am sut fedrwch chi gymryd rhan. Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr o bob cefndir ac o bob oedran, o 17 – 70 mlwydd oed.