Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Saith Sioe Wefreiddiol i'r Haf

Mae gwledd o adloniant ar y gweill i chi dros yr haf. Cymerwch gipolwg ar ein 7 uchaf...

1. Arddangosfa Gofod Creu

28 Mai 2022 ymlaen

Rydyn ni wrthi’n gweddnewid yr adeilad, er mwyn rhannu gofodau a galluogi cenedlaethau’r dyfodol i fod yn greadigol, i arbrofi ac i rannu eu llais. Ymunwch â ni ar gyfer lansiad yr arddangosfa ddydd Sadwrn 28 Mai rhwng 12-6pm, neu dewch i weld yr arddangosfa rhywbryd yn ystod yr haf.

2. Arddangosfa Windrush + Gweithdy

6 Mehefin - 3 Gorffennaf 2022

Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu Arddangosfa Windrush Cyngor Hil Cymru 'Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' i'n Glanfa dros yr haf.

Gallwch hefyd ymuno â ni mewn gweithdy creadigol am ddim cyn ein Gwledd Gymunedol Windrush.

3. GŴYL UNDOD HIJINX

26 Mehefin 2022

Dyma ddigwyddiad olaf Gŵyl Undod 2022 yng Nghaerdydd. Mae Drag Syndrome yn griw drag rhyngwladol sy'n torri tir newydd, sy'n cynnwys Brenhinoedd a Breninesau drag gyda Syndrom Down.

4. The Lion King

8 Gorffennaf – 27 Awst 2022

Wedi’i osod yn y Serengeti Plains mawreddog i rythmau Affrica, mae Disney’s The Lion King yn ffenomen theatraidd fyd-enwog. Mae’r addasiad yma o ffilm glasurol Disney yn wledd weledol sy’n mynd â'r gynulleidfa ar daith i fyd sy'n ffrwydrad o liw, effeithiau arbennig a cherddoriaeth hudolus.

5. Migrations

29 Mehefin, 1 + 2 Gorffennaf 2022

Drwy gyfres o storiâu cyflinellol, mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o ymfudo: o ymfudiad adar i hwylio'r Mayflower dros 400 mlynedd yn ôl; o hanes caethwas Affricanaidd Caribïaidd ym Mryste i brofiad y meddygon Indiaidd sy'n gweithio yn y GIG.

6. Anthem

20 – 30 Gorffennaf 2022

Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya'r genedl. Bydd y comedi gerddorol Gymraeg newydd yma'n codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.

7. Teras

Drwy gydol yr haf.

Ymunwch â ni yn Teras, bar gorau'r Bae. Mwynhewch y golygfeydd yn yr heulwen. Bwyd ar gael o Double Zero a Bar One. Rydyn ni ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul, 12 – 8pm. Dim angen archebu!