Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Cate Le Bon stood outside wearing a red coat

SGWRS GYDA CATE LE BON

Cawsom sgwrs gyda churadur gwadd Gŵyl y Llais, Cate Le Bon, am ei bywyd, ei gwaith a phwy sydd yn ei hysbrydoli hi…

Ar ôl treulio blwyddyn yn Ardal y Llynnoedd, dychwelodd Cate Le Bon gydag albwm newydd anhygoel, Reward. Rydyn ni’n falch dros ben fod Cate yn dod i guradu rhai o berfformiadau’r Ŵyl. Aethom ni am sgwrs gyda hi:

Cyn i ti recordio Reward, fe dreuliaist flwyddyn yn Ardal y Llynnoedd yn dysgu sut i greu dodrefn. Oeddet ti’n disgwyl i hynny arwain at gerddoriaeth newydd, neu oeddet ti wedi bwriadu ffoi rhag y cyfansoddi?

Y bwriad oedd cael hoi o gerddoriaeth. Roeddwn i eisiau amser i asesu fy mherthynas â hi gan yr oeddwn i wedi bod yn yr arfer o ysgrifennu, recordio a theithio am tua 10 mlynedd.

Roeddwn i eisiau gwybod bod fy ymroddiad i gerddoriaeth yn dod o awydd ac nid arfer. Rhoddodd yr amser i ffwrdd gyfle i mi archwilio hynny ac i gerddoriaeth ddod yn hobi eto.

Ble wyt ti’n teimlo’n gartrefol?

Gan fy mod i wedi bod yn teithio’n gyson yn ddiweddar mae cartref wedi dod yn fwy o deimlad na lle, yn fwy canolog i bobl yn hytrach na daearyddiaeth.

Wedi dweud hynny, pan rydw i’n dychwelyd i dŷ fy rhieni yng Ngorllewin Cymru, rwy’n teimlo’n ddiogel ac yn heddychlon mewn ffordd sy’n wahanol i nunlle arall.

Beth y mae’n meddwl i fod yn gynhyrchydd, i fod yn artist-gynhyrchydd gyda gweledigaeth arweiniol yn hytrach na gweithio gyda chynhyrchydd?

Yr unig beth rydw i’n gwybod yw’r hyn rydw i’n edrych am oddi wrth gynhyrchydd ac rydw i’n gwneud popeth posibl i’r artistiaid sy’n gofyn i mi gymryd yr awenau fel cynhyrchydd.

Mae’n rôl gymhleth sydd angen ei gofleidio. Mae’n bwysig eich bod chi’n hwyluso gweledigaeth rhywun arall ac nid eich un chi. Does dim hierarchaeth, mae’n ymdrech cydweithredol.

Pa artistiaid benywaidd wyt ti’n ystyried yn ddylanwad positif ar y diwydiant cerddoriaeth, ac felly’nwedi dod yn fodelau rôl hanfodol?

I enwi ond ychydig…Lizzy Mercier DesclouxYoko OnoAnnette PeacockGrace JonesCosey Fanni TuttiMica LeviJessica Pratt…Dydyn nhw erioed wedi cael eu dylanwadu i grwydro oddi wrth  eu gweledigaeth artistig i ateb disgwyliad pobl eraill na masnacheiddiwch.

Dy hoff foment o 2019?

Gweld Annette Peacock yn perfformio ym Marfa. Roedd yn berfformiad mor fanwl-gywir a phwerus.Yn theatrig yn y bôn ond byth yn annaturiol.

Dyna’r unig dro rydw i wedi crio ar ôl perfformiad oherwydd ei fod wedi fy ngwefreiddio cymaint.

I weld Cate Le Bon yn perfformio yng Ngŵyl y Llais 2020, archebwch eich Tocyn Cyntaf i’r Felin heddiw.