Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Saith sioe syfrdanol Calan Gaeaf

Mae gennym ni ddigonedd o ddigwyddiadau direidus ar y gweill; o ddyddiau crefft iasol, comedi arswydus a Bwrlesg bachog i nosweithiau parti Nadolig.

1. Crefftau arswydus

19 Hydref 2019, 11am - 4pm

Rydyn ni'n caru creu pethau a bod yn greadigol a dydy eleni ddim gwahanol. Ymunwch â ni am ddiwrnod crefftus i'r teulu lle y byddwn yn dangos i chi sut i greu ysbrydion â llaw a hynny allan o wrthrychau bob dydd y cartref.

2. Creu hetiau pryfed cop yn barod at Galan Gaeaf

26 Hydref 2019, 11am - 4pm

Mae Hydref yn fis arbennig i bryfed cop felly, rydyn ni'n creu hetiau pry cop arswydus ar gyfer Calan Gaeaf. Hwyl i'r teulu am ddim a bydd y plant yn edrych yn wych ar gyfer cast neu geiniog.

3. Calan Gaeaf yn dod i Glwb Swper

I ddathlu'r awr ddewinol, mae gennym ni dair sioe arbennig ar y gweill yn cynnwys Bwrlesg ar 31 Hydref gyda Lady Lolly Rouge, GiGi Sextone, Killer Clown a Sweet Transvestite.

Bydd Clwb Swper ar 1 Tachwedd yn cynnwys noson arswydus o theatr gerdd gyda Vikki BebbJonathan Radford a Steffan Rhys Hughes tra bod noson Glwb Swper 2 Tachwedd yn gweld yr anhygoel Connie Orff yn cymyd yr awennau am noson o ddrag direidus.

4. Gwaith ar waith yn crafu'r drws

Trwy gydol Hydref a Thachwedd 2019

Mae rhywbeth yn crafu'r drws... ydych chi'n agor e? Wrth gwrs eich bod chi! Dyma'n perfformiadau gwaith ar ar waith lle y gallwch weld ychydig o'r talent anhygoel sydd ar ddod am bris lawer llai. Cymerwch y cyfle i wylio rhywbeth newydd ac agor eich llygaid i fyd o chwilfrydedd, theatr gyfoes.

5. Comedi Craff

7 Tachwedd 2019

Mewn sioe newydd sbon, mae'r comediwraig stand-yp a'r crewraig theatr Amy Vreeke yn cymryd edrychiad gonest a doniol ar gyflwr llid y famog (endometriosis); clefyd sy'n newid bywyd un ym mhob deg o fenywod yn y DU.

6. Diflannu

17 - 19 Hydref 2019

Ychydig flynyddoedd yn ôl, sylweddolodd Mari ei bod hi wedi diflannu. Mae The Invisible Woman yn gomedi dywyll am heneiddio heb urddas ar antur am arwyddocâd, wedi'i sgwennu gan Ailsa Jenkins, wedi'i hysbrydoli gan ei diflaniad hi'i hun.

7. Arswyd dros y Nadolig

7 Rhagfyr 2019

Y Nadolig yma, llenwch eich hosan gyda glityr, ysbrydion a hudoliaeth gyda Foo Labelle a Chlwb Cabaret Caerdydd.

Ymunwch â ni am y parti gwrth-nadoligaidd yma sy'n cynnwys Bwrlesg bachog, comedi iasol ac amgen gyda Sandy Sure, Jack Kristiansen, Sirona Thorneycroft a FooFooLaBelle.